Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Bara Sinsir

Llandrindod, Powys

Moldiau bara sinsir

‘Roedd y bara sinsir hwn yn boblogaidd iawn yn sir Faesyfed, ac fe’i gwerthid yn y ffeiriau yno.

Llandrindod, Maesyfed.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • tri chwarter pwys o flawd plaen
  • tair owns o ymenyn
  • dwy owns o gandi pîl
  • hanner llond llwy de o soda pobi
  • llond llwy de o bowdr tartar
  • pedwar llond llwy de o sinsir mâl
  • dau wy
  • chwech owns o driog du
  • chwech owns o siwgr coch bras
  • ychydig o lefrith cynnes

Dull

  1. Rhwbio’r ymenyn i mewn i’r blawd, ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt a’u cymysgu’n dda.
  2. Toddi’r triog yn y llefrith cynnes, curo’r wyau a thywallt y naill ar ben y llall. 
  3. Eu hychwanegu’n raddol at y defnyddiau eraill gan gymysgu’r cyfan yn drwyadl.
  4. Iro tun lled-fas, rhoi’r cymysgedd ynddo a’i grasu mewn popty poeth am ryw awr o amser.
  5. Dylid gadael i’r deisen oeri cyn ei thorri’n ddarnau sgwâr.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.