Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Bara Brau

Llandrindod, Powys

Crasu torth mewn cidl

Arferid gwneud y bara brau hwn ar gyfer y nosweithiau llawen a gynhelid yn y ffermdai yn sir Faesyfed.

Llandrindod, Maesyfed.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • hanner pwys o ymenyn
  • deuddeg owns o flawd gwenith
  • chwarter pwys o flawd reis
  • hanner pwys o siwgr

Dull

  • Curo’r ymenyn mewn basn i’w feddalu ac yna gogryn y blawd drosto a’i weithio i mewn iddo. 
  • Ychwanegu’r siwgr a’r blawd reis at y cymysgedd a’i dylino’n does llyfn.
  • Rhannu’r toes yn bedwar darn a llunio torth gron, fflat o bob un ohonynt. 
  • Crychu ymyl y torthau â bys a bawd, eu brathu’n ysgafn â blaen fforc a’u crasu ar dun ymyl-isel mewn ffwrn weddol boeth am ryw hanner awr.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.