Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Burum Cartref
Aberteifi, Ceredigion
‘Burum total’ neu ‘burum dirwest’ oedd yr enw a roid ar furum cartref yn sir Aberteifi. Nid oedd y burum hwn mor gryf â’r burum a brynid yn y siopau. Dyna’r rheswm pam y byddai gwragedd yn gwlychu’r toes fin nos a’i adael i godi mewn lle cynnes tan y bore.
Rhydlewis, Aberteifi.
Byddai llawer o wragedd yn gwneud burum cartref a’i werthu i’r cymdogion am geiniog neu ddwy y peint. Yr oedd modd prynu burum o’r dafarn hefyd ac yr oedd hwn yn gryfach na’r un a wneid gartref. Gelwid y naill yn ‘berman dirwest’ neu ‘berman total’ a’r llall yn ‘berman tafarn’ mewn rhai ardaloedd ym Morgannwg, e.e. Pen-prysg, Morgannwg.
Y Rysáit
Byddwch angen
- pedair owns o hopys
- hanner dwsin o datws yn eu crwyn
- galwyn a hanner o ddŵr
- llond cwpan te o siwgr
- llond cwpan te o flawd
- chwarter peint o hen furum
Dull
- Berwi’r hopys a’r tatws mewn galwyn a hanner o ddŵr nes bod y tatws wedi chwalu ynddo.
- Codi’r cymysgedd oddi ar y tân a’i hidlo i badell bridd.
- Gadael i’r trwyth hwn oeri hyd at naws gwaed, cymysgu’r siwgr a’r blawd ag ychydig o’r trwyth a’i roi yn ôl yn y badell ynghyd â’r hen furum.
- Gorchuddio’r badell â lliain glân a’i rhoi o’r neilltu mewn lle cynnes am ddau ddiwrnod.
- Yna hidlo’r burum i boteli neu ystenau pridd, eu cau’n dynn â chyrc, a’u cadw mewn lle oer.
Pennant, Trefaldwyn
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.