Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Tatws Popty

Pen Llŷn, Gwynedd

Y lle tân yng nghegin Tŷ Newydd Ffynnon, Manod ger Blaenau Ffestiniog. Enghraifft o range a welid yn gyffredin mewn ffermdai a bythynnod yng Nghymru.

Cyfrifid hwn yn ginio arbennig ar gyfer diwrnod dyrnu.

Garnfadrun, Llŷn.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • darn o gig ffres (cig eidion fel rheol)
  • tatws
  • nionyn
  • dŵr

Dull

  1. Rhostio darn o gig ffres mewn tun mawr yn y popty am ryw awr neu ragor. 
  2. Rhoi’r tatws o amgylch y cig ynghyd â’r nionyn (wedi’i falu’n fân), a thywallt ychydig o ddŵr berwedig drostynt. 
  3. Rhoi caead dros wyneb y tun a choginio’r cyfan nes y bo’r cig wedi’i rostio’n drylwyr a’r tatws wedi cochi.

Mynytho, Llŷn.

Y mae’r dull o goginio’r pryd hwn yn amrywio.

  1. Llenwi gwaelod y tun cig â thatws a nionod, a’u gorchuddio â dŵr.  Rhoi darn mawr o gig eidion neu gig dafad ar wyneb y tatws a rhostio’r cwbl yn y popty.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.