Llainfadyn, tyddyn chwarelwr, yn wreiddiol o Rostryfan
Yr oedd lobsgows yn cael ei fwyta’n gyffredin i ginio ar ffermydd yn siroedd gogledd Cymru neu i ‘swper chwarel’ yn ardaloedd y chwareli yno, e.e. Mynytho, Llŷn, a Rhostryfan, Caernarfon.
Berwi’r darn cig mewn sosban fawr am ychydig amser cyn rhoi’r nionyn, y moron, a’r rwden (wedi’u torri’n fân) yn y dŵr. (Gellir torri’r cig yn ddarnau mân os bydd yr amser i’w ferwi yn brin.)
Parhau i ferwi’r cig a’r llysiau drachefn gan ychwanegu’r tatws ryw ugain munud cyn codi’r lobsgows oddi ar y tân.
(Bydd tewder y lobsgows yn dibynnu ar ba faint o lysiau a roir ynddo.)
Mynytho, Llŷn
Ffilm/Recordiad
Mae rhai yn ystyried cawl fel pryd cenedlaethol Cymru. Yn draddodiadol, dyma oedd prif ymborth nifer o deuluoedd, ac fel y mwyafrif o ryseitiau, roedd yn amrywio o ardal i ardal ac o deulu i deulu yn dibynnu ar y cynhwysion a'u tymor. Mewn rhai ardaloedd gweinwyd y cawl heb y cig a'r llysiau fel cwrs cyntaf, a'r llysiau a'r cig berw fel prif gwrs.
Pryd tebyg a weinwyd yng ngogledd Cymru oedd lobsgows.
Dyma Rhian Gay yn dangos sut i baratoi cawl.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.