Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Tatws Stêm

Nefyn, Gwynedd

Yr oedd hwn yn bryd cyffredin i ginio neu swper ym Mhorth Dinllaen.

Nefyn, Llŷn.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • tatws wedi’u torri’n ddarnau gweddol o faint
  • nionod
  • cig moch
  • ychydig o flawd
  • dŵr

Dull

  1. Llenwi sosban â haen o datws a haen o nionod bob yn ail, gan roi haen o datws yn uchaf. 
  2. Ysgwyd ychydig o flawd dros y tatws cyn rhoi sleisennau o gig moch ar eu hwyneb. 
  3. Tywallt dŵr i orchuddio’r haen olaf o datws cyn rhoi papur ymenyn dros y cig moch, a gwasgu’r defnyddiau’n dynn ar ei gilydd â phlât. 
  4. Rhoi caead ar wyneb y sosban a mud-ferwi’i chynnwys.

Yr oedd hwn yn bryd cyffredin i ginio neu swper ym Mhorth Dinllaen.

Nefyn, Llŷn.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.