Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Pastai Morgannwg

Llanofer, Sir Fynwy

Dysgl

Y Rysáit

Byddwch angen

  • peint o laeth
  • dau wy
  • owns a hanner o flawd
  • ychydig o halen
  • tair owns o gig moch wedi’i dorri’n fân
  • dau lond llwy fwrdd o bersli wedi’i falu
  • ychydig o gennin syfi wedi’u malu
  • crwst brau

Dull

  1. Gorchuddio gwaleod ac ochrau dysgl bastai â’r crwst.
  2. Cymysgu’r blawd ag ychydig o’r llaeth, codi gweddill y llaeth i’r berw, arllwys y cymysgedd blawd iddo a’i ferwi drachefn am ddwy funud.  Ei droi’n gyson wrth ei ferwi i’w rwystro rhag llosgi.
  3. Gadael i’r cymysgedd oeri, ac yna ychwanegu’r wyau (wedi’u curo) a gweddill y defnyddiau ato. 
  4. Arllwys y cymysgedd ar y crwst a chrasu’r bastai mewn ffwrn weddol boeth am ryw awr.

Llanofer, Mynwy.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.