Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Pwdin Pys

Bro Gŵyr

Enghraifft o'r bwrdd mawr y byddai'r gweision yn eistedd wrtho wrth fwyta'u prydau bwyd.

Yr oedd hwn yn bryd cyffredin i ginio neu i swper ar y ffermydd yn ystod misoedd y gaeaf.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • hanner pwys o bys hollt
  • un wy
  • ychydig o ymenyn a siwgr
  • pupur a halen

Dull

  1. Golchi’r pys yn drwyadl a’u rhoi’n wlych mewn dŵr oer dros nos. 
  2. Eu rhoi mewn cwdyn lliain, a’i glymu’n dynn gan adael lle i’r pwys chwyddo ynddo.
  3. Rhoi’r cwdyn mewn sosban, ei orchuddio â dŵr berwedig ac ychydig o halen, a’i ferwi’n gyflym am ddwy awr tra nes y bo’r pys wedi meddalu. 
  4. Codi’r cwdyn allan o’r sosban a gwasgu’r dŵr ohono.
  5. Arllwys y pys o’r cwdyn a’u gyrru drwy ogr mân i ddysgl. 
  6. Curo’r wy a’i arllwys arnynt, a’u blasu â phupur a halen, siwgr ac ymenyn. 
  7. Cymysgu’r defnyddiau’n drwyadl am rai munudau. 
  8. Rhoi’r cymysgedd hwn ar ddarn o liain wedi’i orchuddio â blawd, ei glymu’n dynn ar ffurf cwdyn, a’i ferwi eto am hanner awr arall. 
  9. Troi’r pwdin allan i ddysgl gynnes, ei dafellu, a’i fwyta gyda chig eidion neu gig mochyn hallt.

Bro Gŵyr.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.