Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Y Rysáit
Byddwch angen
- cwningen
- llond cwpan o isgell
- ychydig o bersli, teim a deilen llorwydden
- darnau bach o gig moch
- toddion cig moch
- corbys wedi’u berwi mewn dŵr
Dull
- Glanhau’r wningen yn y dull arferol, ei datgymalu a’i thorri’n ddarnau hwylus i’w ffrio mewn toddion cig moch.
- Ar ôl i’r cig gochi rhyw gymaint, ychwanegu’r darnau cig mocha ato, eu blasu â’r persli a’r teim a’r ddeilen llorwydden a thywallt yr isgell drostynt.
- Rhoi clawr ar wyneb y badell ffrio a mud-ferwi’r defnyddiau nes i’r cig ddigoni.
- Gyrru’r corbys ac arllwys y dŵr y berwid hwy ynddo drwy ogr mân i sosban.
- Ychwanegu’r gwlybwr a fydd ar ôl yn y badell ffrio ar ôl codi’r cig allan ohoni at sylwedd y corbys.
- Ei ferwi nes y bo’n tewhau a’i dywallt dros y cig.
- Ei fwyta gyda thatws a maip.
Bro Gŵyr.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.