Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Stiw Cwningen

Pen Llŷn, Gwynedd

Y Rysáit

Byddwch angen

  • cwningen
  • hanner pwys o gig moch
  • moron
  • meipen
  • dau neu dri nionyn
  • owns o flawd
  • ychydig o bersli wedi’i falu’n fân
  • ychydig o saim
  • pupur a halen

Dull

  1. Glanhau’r wningen yn y dull arferol, ei datgymalu a’i thorri’n ddarnau hwylus. 
  2. Torri’r cig moch a’r llysiau yn ddarnau bach cymedrol eu maint. 
  3. Rhoi’r defnyddiau hyn i gyd mewn sosban fawr, eu blasu â phupur a halen a phersli, eu gorchuddio â dŵr, a’u mud-ferwi’n araf am ryw awr a hanner. 
  4. Cymysgu’r blawd ag ychydig o ddŵr oer, ei dywallt i’r stiw a’i ferwi eto am ychydig o funudau.

Llŷn.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.