Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Pwdin Gwaed Gwyddau
Llangybi, Gwynedd
Byddid yn ei fwyta gyda thatws neu fara ‘menyn.
Llangybi, Caernarfon.
Y Rysáit
Byddwch angen
- gwaed nifer o wyddau
- blawd ceirch
- blawd plaen
- pupur a halen
- siwgr
- nionyn
Dull
- Tynnu’r croen oddi ar wddf gŵydd, sef y darn rhwng y pen a’r corf, a gwnïo un pen iddo â llinyn.
- Cadw gwaed nifer o wyddau ar ddiwrnod eu lladd, ei roi mewn dysgl a’i guro â fforc nes iddo oeri. (Y mae’r curo yn ei rwystro rhag mynd yn dalpiog.)
- Cymysgu llond llwy fwrdd neu ddwy o flawd plaen a blawd ceirch mewn ychydig o’r gwaed, a’i dywallt i mewn i’r gweddill.
- Ei flasu â phupur a halen, ychydig o siwgr, a nionyn wedi’i falu’n fân.
- Llenwi’r cwd croen â’r cymysgedd hwn a gwnïo’r pen arall.
- Rhoi’r pwdin mewn sosbanaid o ddŵr berw a’i ferwi am ddwy neu dair awr.
- Torri’r pwdin yn dafelli ar ôl iddo oeri a’i ffrio mewn saim cig moch.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.