Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Teisen Dorth

Margam, Castell-nedd

Y deisen dorth a wnaed ar gyfer y Nadolig yn siroedd de Cymru.

Yr oedd hwn yn ddull hawdd o wneud teisen dorth ar gyfer y cynhaeaf pan nad oedd amser i gymysgu teisen yn y dull arferol.

Margam, Morgannwg.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • toes bara cyffredin
  • lard (neu ymenyn)
  • siwgr coch
  • cyrens
  • resins
  • ychydig o sbeis
  • un wy

Dull

  1. Cadw darn o does o’r neilltu ar ôl iddo godi ar ddiwrnod crasu bara. 
  2. Gweithio ychydig o lard neu ymenyn i mewn i’r toes a chymysgu’r defnyddiau eraill i mewn iddo. 
  3. Gwlychu’r cyfan ag wy wedi’i guro, a’i adael i godi am ychydig o amser.
  4. Rhoi’r ‘toes’ hwn mewn tun a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth yn yr un dull â chrasu bara cyffredin.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.