Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Torth Fraith
Caernarfon, Gwynedd
Byddid yn torri’r dorth hon yn dafelli a thaenu ymenyn arnynt.
Uwchmynydd, Caernarfon.
Y Rysáit
Byddwch angen
- pwys o flawd
- ychydig o halen
- ychydig o siwgr coch
- hanner pwys o gyrens
- hanner pwys o resins
- llond llwy fwrdd o driog du
- owns o furum
- dŵr cynnes
- (ychydig o lard neu ymenyn)
Dull
- Cymysgu’r burum ag ychydig o siwgr a dŵr cynnes a’i adael i godi mewn lle cynnes am ychydig o amser.
- Rhoi’r blawd a’r halen mewn padell ynghyd â’r defnyddiau sych eraill, eu cymysgu’n drwyadl a gwneud lle yn eu canol i dderbyn y burum.
- Tywallt y burum iddo.
- Toddi’r triog mewn ychydig o ddŵr cynnes a’i ddefnyddio’n raddol i wlychu’r cyfan nes cael ‘toes’ meddal. (Gellir toddi ychydig o ymenyn neu lard yn y dŵr yn ogystal â’r triog, os dymunir.)
- Tylino’r toes yn dda a’i adael i godi mewn lle cynnes am awr neu ragor.
- Ail dylino’r toes ar fwrdd pren a’i roi mewn tun cynnes sydd wedi’i iro ymlaen llaw.
- Gadael i’r torth godi am ychydig o amser eto cyn ei rhoi mewn popty gweddol boeth i’w chrasu.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.