Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Cawl Pys

Dowlais, Merthyr Tudful

Llwy cawl

Codi’r cig, y llysiau a’r cawl i ddysglau cawl agored a’u bwyta gyda’i gilydd oedd y patrwm cyffredin gan y glowyr.  Yr oedd hwn yn un o’r prydau a baratoid iddynt ar gyfer eu cinio nos ym misoedd y gaeaf.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • darn o gig eidion (coes-las)
  • darn o goesgyn mochyn
  • pys hollt
  • pannas
  • moron
  • erfinen (swedsen)
  • winwns
  • tatws
  • dŵr
  • fflŵr gwyn, plaen

Dull

  1. Rhoi’r pys hollt i fwydo mewn dŵr oer am awr neu ddwy ymlaen llaw (neu dros dro os dymunir). 
  2. Lled-ferwi’r cig mewn sosban, taflu’r dŵr hwnnw i ffwrdd, a gorchuddio’r cig â dŵr glân ar gyfer gwneud y cawl. 
  3. Berwi’r cig am awr neu ragor cyn rhoi’r pys hollt yn y dŵr gydag ef. 
  4. Yna ymhen ychydig o amser eto ychwanegu’r moron, y pannas a’r erfinen, i gyd yn y drefn yna, ar ôl eu torri’n ddarnau heb fod yn rhy fân.  (Bydd y swm a roir o bob un ohonynt yn dibynnu ar faint y sosban ac ar chwaeth bersonol.) 
  5. Mud-ferwi’r llysiau am ryw gymaint o amser cyn ychwanegu’r tatws atynt, a berwi’r cyfan gyda’i gilydd am ryw ugain munud eto. 
  6. Cymysgu ychydig o fflŵr gwyn â dŵr oer a’i arllwys yn raddol i’r cawl i dewhau.  (Os dymunir, gellir codi’r cig allan o’r cawl cyn rhoi’r fflŵr ynddo.)

Dowlais, Morgannwg.

 

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nia Evans Staff Amgueddfa Cymru
3 Chwefror 2020, 10:44

Helo,

Diolch yn fawr am eich sylwad ac am dynnu'n sylw ni at hyn. Mae'r dudalen wedi cael ei ddiweddaru bellach gyda'r cynhwysion yn ymddangos yn yr iaith gywir.

Gyda diolch,

Nia
(Tîm Digidol)

Heuly Llyr Lewis
2 Chwefror 2020, 17:32
Cawl Pys
"Byddwch angen"
Yn Seisneg!