Amser Bwyd
Teisen Lap
Pen-prysg, Morgannwg
Y dull traddodiadol o grasu’r deisen hon yn ardal Pen-prysg, Pen-coed oedd arllwys y cymysgedd i’r tun bas sydd ar waelod ffwrn dun (Dutch oven), a’i grasu’n araf o flaen tân coch. Ni ddylai’r ffwrn fod yn rhy agos i’r tân; rhaid oedd i’r deisen gael amser i godi a chrasu drwyddi cyn y gellid ei throi wyneb i waered i’w chrasu ar yr ail ochr. Gan mai wyneb uchaf y deisen oedd yn crasu gyntaf yn y dull hwn gellid arbrofi heddiw drwy ei chrasu hi yn yr un modd o dan ridyll popty nwy neu drydan. Rhoi’r cymysgedd mewn tun a’i leoli’n ddigon isel o dan y gwres.
‘Roedd teisen lap yn cael ei chyfrif yn ‘deisen bob dydd’ ym mhentrefi glofaol de Cymru. Byddai’r glöwr yn hoff o gael darn ohoni yn ei focs bwyd a chan mai teisen laith ei hansawdd oedd hi ni fyddai’n briwsioni ar draws gweddill y bwyd. Y mae ansawdd y deisen hefyd yn egluro ystyr yr enw teisen lap. Teisen wedi’i chymysgu yn wlyb neu yn llap ydyw, yn ôl y cyfarwyddiadau uchod: ystyr yr ansoddair llap yw gwlyb ac yr oedd yn air byw mewn rhai ardaloedd ym Morgannwg.
Y Rysáit
Byddwch angen
- pwys o flawd plaen
- hanner pwys o lard (neu chwarter pwys o ymenyn a chwarter pwys o lard)
- llond cwpan mawr o siwgr coch
- llond cwpan o gyrens
- ychydig o halen
- ychydig o nytmeg
- dau wy
- llaeth enwyn
Dull
- Rhwbio’r ymenyn a’r lard i mewn i’r blawd, ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt a’u cymysgu’n drwyadl.
- Curo’r wyau’n dda, gwneud ‘llygad’ yng nghanol y defnyddiau a’u harllwys iddo.
- Eu cymysgu â llwy bren, gan ychwanegu’r llaeth enwyn yn ôl y gofyn. Rhaid i’r cymysgedd hwn fod yn ddigon gwlyb fel y gellir ei arllwys o’r ddysgl i’r tun i’w grasu. (Y mae ei ansawdd yn fwy tebyg i gytew crempog nag i’r hyn a baratoir ar gyfer gwneud teisen gyffredin.)
- Arllwys y cyfan i dun bas a chrasu’r deisen mewn ffwrn weddol boeth.
Pen-prysg, Morgannwg.
sylw - (10)
We had a 3 bedroom terraced house in the Rhondda and living there we had:
Grandfather Plus my brother and me in one bedroom
Uncle and Cousin who shared one bedroom
My father and step mother in the 3rd bedroom
Bit cramped with no indoor toilet or water, tin bath hanging on the wall outside, outside toilet with no flush (old style wooden thunder box) and no electricity in the toilet or upstairs.
Hard time’s.
Hi Gwendydd,
Thank you very much for your enquiry. Please try a conversion table like the following: https://www.bbcgoodfood.com/conversion-guides.
Best wishes,
Marc
Digital Team
I do not cook by gas. Could you please give the ffwrn instructions for an electric ffwrn.
Thank you very much. Diolch yn fawr.
Hi Diana. Please see the reply below from our curator who specialises in cookery, Mared McAleavy:
'Yes, you can cook it in the ffwrn (oven). As with all recipes passed down from generation to generation, each family have their set of instructions and they’re all different! Some recipes suggest Gas Mark 1 for 1.20-1.30 minutes; others Gas Mark 3 for 60 minutes or Gas Mark 4 for 35 minutes.
'Keep an eye on the cake, and it should be ready when it’s firm to the touch and slightly golden.'