Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Cacen Waed Gwyddau

Trefeglwys, Powys

Cacen waed gwyddau, sef y gacen Nadolig mewn rhannau o sir Drefaldwyn.

Ceir tystiolaeth am wneud y gacen arbennig hon mewn rhai ardaloedd yn sir Drefaldwyn pan fyddai’r ffermwyr yn lladd nifer fawr o wyddau ar gyfer y Nadolig.  Cofir am ei gwneud yn ardal Trefeglwys a’r cylch, ac yn ardaloedd Staylittle, Llanbryn Mair a Llangurig, ac fe’i cyfrifid yn foethyn a gysylltid â’r Nadolig yn unig.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • crwst brau
  • gwaed gwyddau
  • pwys o gyrens
  • pwys o siwgr coch, mân
  • hanner pwys o siwet mâl
  • tri llond llwy de o sbeis cymysg
  • pedwar llond llwy bren o driog melyn
  • ychydig o halen

Dull

  • Gwneud crwst brau ymlaen llaw.
  • Iro basn â lard a dal gwaed rhyw dair gŵydd ynddo ar ddiwrnod eu lladd. 
  • Rhoi’r basn a’r gwaed mewn sosban a dŵr ynddi a’i ferwi am dair awr. 
  • Yna gadael i’r gwaed oeri a chaledu cyn ei droi allan o’r basn.
  • Cymryd darn o’r ‘gwaed’ caled hwn, tua hanner pwys, a’i falu’n fân â llaw i ddysgl bridd. 
  • Ychwanegu’r defnyddiau uchod ato a’u cymysgu’n drwyadl â llwy bren.
  • Taenu’r cymysgedd hwn yn drwchus rhwng dwy haen o grwst ar blât neu ddysgl isel, a chrasu’r gacen mewn popty poeth am ryw hanner awr.

Trefeglwys, Maldwyn.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.