Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Cacen Gneifio neu Ddyrnu

Llanerfyl, Powys

Gwialen ddyrnio, 1850au.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • tri llond cwpan mawr o flawd plaen
  • hanner pwys o siwgr
  • hanner pwys o doddion cig moch
  • blaen llwy de o soda pobi wedi’i gymysgu mewn ychydig o ddŵr cynnes a llaeth enwyn[M2] 
  • pwys o ffrwythau sych (cyrens a resins)
  • dau neu dri wy
  • llaeth enwyn

 

Dull

  1. Rhwbio’r lard i’r blawd a chymysgu’r defnyddiau sych eraill drwyddynt. 
  2. Curo’r wyau a’u tywallt i bant yng nghanol y blawd ynghyd â’r soda pobi. 
  3. Cymysgu’r defnyddiau’n dda gan ychwanegu llaeth enwyn yn ôl y galw nes cael cymysgedd cymharol wlyb.
  4. Iro tun ymyl-uchel, rhoi’r cymysgedd ynddo a’i grasu mewn popty gweddol boeth am ryw awr a hanner.

Llanerfyl, Maldwyn.

 

 
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.