Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Cacen Lard
Ton Pentre, Rhondda Cynon Taf
Yr oedd hon yn gacen a wneid yn gyffredin ym Morgannwg ar ddiwrnod crasu bara.
Y Rysáit
Byddwch angen
- pwys o does bara
- wyth owns o lard
- pedair owns o gyrens
- dwy owns o bîl lemon
- dwy owns o siwgr
Dull
- Taenu ychydig o flawd ar fwrdd pren, rhoi’r toes arno a’i yrru’n hirsgwar hyd at ryw fodfedd o drwch.
- Rhannu pob un o’r defnyddiau eraill yn bedwar a’u gweithio i mewn i’r toes fel hyn: lledu dwy owns o lard ar y toes â chyllell a rhoi owns o gyrens a hanner owns o bîl ar ei wyneb.
- Ysgwyd ychydig o siwgr a blawd drostynt ac yna plygu’r toes yn ddau.
- Gyrru’r toes eto, lledu chwarter arall o’r defnyddiau arno yn yr un drefn, a’i blygu.
- Gwneud yr holl broses bedair gwaith a cheisio trafod y toes mor ysgafn ag sy’n bosibl.
- Rhoi’r cymysgedd mewn tun wedi’i iro, a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw awr.
- Torri’r gacen yn ddarnau bach sgwâr, rhoi ymenyn arnynt a’u bwyta’n gynnes neu’n oer.
Ton Pentre, Morgannwg.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.