Gorchuddio’r darnau cig â dŵr a halen mewn sosban fawr, codi’r dŵr i’r berw ac yna mud-ferwi’r cig am awr neu ragor cyn rhoi’r llysiau yn y cawl.
Hollti’r moron a’r pannas ar eu hyd, torri’r erfinen yn ddarnau heb fod yn rhy fân, a’u rhoi yn y cawl. (Bydd y swm a roir o bob un ohonynt yn dibynnu ar faint y sosban ac ar chwaeth bersonol.)
Berwi’r llysiau hyn am ryw ychydig cyn ychwanegu’r cennin (wedi’u torri’n fân) a’r tatws atynt, gan ychwanegu ychydig o ddŵr hefyd os gwelir bod angen hynny.
Cymysgu ychydig o fflŵr gwyn â dŵr oer a’i arllwys yn raddol i’r cawl i’w dewhau pan fo’r llysiau a’r cig wedi berwi digon.
Rhoi’r persli mân yn y cawl am ryw ychydig o funudau yn unig cyn codi’r cawl gan ei fod yn dueddol o felynu’r cawl.
Codi’r cawl i fasnys neu i blatiau cawl a malu bara iddo.
Codi’r tatws, y llysiau a’r cig i blatiau a’u bwyta ar ôl y cawl.
Dowlais, Morgannwg.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.