Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Poten Dato
Trefdraeth, Sir Benfro
Gwneid y deisen hon yn gyffredin yn sir Benfro ac yn sir Aberteifi adeg codi tato yn yr Hydref. Ar ddiwrnod crasu bara yn y ffwrn frics byddid yn gwneud llond padell fawr ohoni a’i gadael i grasu’n araf yn y ffwrn honno dros nos. Byddai’r ffwrn yn cadw’i gwres am rai oriau ar ôl gorffen crasu’r bara ynddi.
Y Rysáit
Byddwch angen
- tato
- llaeth
- un wy wedi’i guro
- siwgr
- cyrens
- blawd plaen
- sbeis
- dŵr
- ychydig o halen
Dull
- Berwi llond sosban o dato mewn dŵr a halen nes eu bod yn ddigon.
- Arllwys y dŵr ohonynt, a’u rhoi mewn dysgl fawr.
- Rhoi talp neu ddau o ymenyn gyda’r tato a’u ‘pwnno’ nes eu bod yn hollol lyfn.
- Yna ychwanegu’r blawd, siwgr a chyrens ac ychydig o sbeis atynt. (Ni fyddid yn pwyso’r defnyddiau hyn; byddai’r wraig yn eu hychwanegu’n ôl ei chwaeth bersonol hi.)
- Gwlychu’r cyfan â’r wy ac ychydig o laeth nes cael cymysgedd o ansawdd gweddol wlyb.
- Iro tun bas, rhoi’r cynnwys hwn ynddo a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth.
Trefdraeth, Penfro.
sylw - (1)