Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Miogod Sir Benfro

Rhiwbeina, Caerdydd

‘Roedd hi’n arfer mewn rhai ardaloedd yn sir Benfro i baratoi’r cacennau hyn yn arbennig i’w rhoi’n galennig i’r plant ar ddydd Calan.  Byddai gwraig y tŷ yn crasu dros hanner cant ohonynt ar y tro ar waelod y ffwrn frics, a c hariai’r plant hwy adref mewn cas gobennydd ar eu cefnau.  Fel rheol, caent ddwy gacen yr un ym mhob tŷ.  Aent o ddrws i ddrws i ganu neu adrodd rhigwm yn dymuno’n dda i deuluoedd yr ardal ar ddechrau blwyddyn newydd.

 

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys o flawd
  • owns o furum
  • dwy owns o siwgr
  • hanner owns o lard
  • hanner owns o ymenyn
  • dwy owns o gyrens
  • owns o bîl
  • ychydig o ddŵr a llefrith cynnes

Dull

  1. Rhwbio’r ymenyn a’r lard i’r blawd a chymysgu’r defnyddiau sych eraill drwyddynt. 
  2. Toddi’r burum mewn ychydig o ddŵr cynnes a’i roi mewn pant yng nghanol y cymysgedd. 
  3. Ychwanegu ychydig o ddŵr a llefrith cynnes at y burum a gweithio’r defnyddiau sych i mewn iddynt yn raddol nes cael toes meddal.
  4. Gadael i’r toes godi am ryw bymtheng munud mewn lle cynnes. 
  5. Yna ei dylino eto ar fwrdd pren a llunio cacennau bach crwn ohono. 
  6. Lledu’r cacennau â rholbren a’u gadael i ail godi am ddeng munud.
  7. Crasu’r cacennau mewn ffwrn boeth am ryw ugain munud nes eu body n felyngoch eu lliw.

Rhiwbeina, Morgannwg.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.