Amser Bwyd
Teisen Griwsion
Abertawe
Ymenyn neu lard oedd sylfaen pob teisen cyn dyfod margarîn i’r siopau, ac fel rheol dibynnai gwraig y tŷ ar ladd mochyn i sicrhau cyflenwad da o lard cartref.
Byddid yn codi’r ddwy flonegen oddi ar y mochyn, eu torri’n ddarnau bach sgwâr a’u rhoi mewn sosban neu grochan wrth ymyl y tân i doddi. Rhaid oedd toddi’r bloneg yn araf rhag iddo losgi, gan godi’r saim a ddeuai ohono’n raddol a’i hidlo i botiau pridd neu unrhyw lestr pwrpasol. ‘Roedd hi’n arfer gan rai i’w hildo i ‘bledren’ (chwysigen) y mochyn. Ar ôl iddo oeri a chaledu, ceir lard gwyn pur.
‘Creision’ neu ‘criwsion’ oedd yr enwau mwyaf cyffredin a roid ar y darnau bach caled, sych a oedd yn weddill o’r bloneg ar ôl toddi’r saim yn llwyr ohono. Arferid yr enwau cree, scruggins a scrutchins arnynt yn Saesneg yng Nghymru. Dull cyffredin o’u defnyddio oedd eu blasu â phupur a halen a blawd ceirch a’u bwyta’n oer gyda bara ‘menyn.
Yr oedd hi’n arfer hefyd i’w rhoi mewn teisen mewn rhai ardaloedd.
Y Rysáit
Byddwch angen
- pwys o flawd codi
- tri chwarter pwys o griwsion wedi’u malu
- hanner pwys o siwgr
- ychydig o laeth â dŵr
Dull
- Torri’r criwsion yn ddarnau mân a’u cymysgu gyda’r blawd a’r siwgr mewn basn.
- Eu gwlychu ag ychydig o laeth a dŵr i wneud toes meddal.
- Gyrru’r toes â rholbren i ryw fodfedd o drwch, iro tun ymyl-isel â lard, a rhoi’r toes ynddo.
- Ysgwyd ychydig o siwgr mân ar wyneb y toes a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw hanner awr.
Abertawe, Morgannwg.
Ceid amrywiad ar y rysait hwn drwy gynnwys ychydig o gyrens yn y toes a chrasu’r deisen ar blanc (neu radell).
Bro Gŵyr.
sylw - (2)
So next time I render down some pork fat I'll know what to do with the crispy bits. Thank you for the information and long live the internet!