Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Teisen Mêl a Sinsir

Llanwenog, Ceredigion

Y deisen dorth a wnaed ar gyfer y Nadolig yn siroedd de Cymru.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pedwar llond cwpan o flawd plaen
  • dau lond llwy de fawr o bowdr codi
  • dau lond llwy de fawr o sinsir mâl
  • hanner llond cwpan o syltanas
  • hanner llond cwpan o geirios
  • ychydig o gandi pîl
  • pedair owns o ymenyn
  • dau wy
  • tri chwarter llond cwpan o fêl
  • ychydig o halen
  • ychydig o laeth

Dull

  1. Gogryn y blawd, y powdr codi, yr halen a’r sinsir i fasn ac ychwanegu’r syltanas, y candi pîl a’r ceirios (wedi’u torri yn eu hanner) atynt. 
  2. Toddi’r ymenyn mewn sosban a chymysgu’r mêl ag ychydig o laeth iddo. 
  3. Gadael i’r cymysgedd hwn oeri, ac yna ei arllwys ef ynghyd â’r wyau i mewn yn raddol i’r defnyddiau sych. 
  4. Cymysgu’r cyfan yn drwyadl.
  5. Iro tun ymyl-uchaf yn dda, rhoi’r cymysgedd ynddo a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth.

Y mae’r teisen hon yn gwella o’i chadw am ryw bythefnos cyn ei bwyta.

Llanwenog, Aberteifi.

 
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.