Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Cacen Ann Dafis
Cydweli, Sir Gaerfyrddin
Cadwai Ann Dafis siop yng Nghydweli. Crasai fara a chacennau mewn ffwrn fawr y tu cefn i’r siop yn arbennig ar gyfer eu gwerthu. Yr oedd galw mawr am ei chacen ffrwythau, a gwerthid hi am chwecheiniog y pwys.
Bu Miss Dafis farw yn ystod misoedd y Gwanwyn 1928.
Cydweli, Caerfyrddin.
Y Rysáit
Byddwch angen
- pwys a hanner o flawd plaen
- pwys a hanner o gyrens
- pwys o siwgr
- chwarter pwys o ymenyn
- hanner pwys o lard
- hanner llond llwy de o nytmeg
- hanner llond llwy de o sbeis cymysg
- hanner llond llwy de o soda pobi
- hanner llond llwy de o bowdr codi
- chwarter llond llwy de o halen
- hanner peint o laeth
- dau wy wedi’u curo
Dull
- Rhwbio’r ymenyn a’r lard i mewn i’r blawd a’r siwgr, ac ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt.
- Gwneud pant yn y canol i dderbyn yr wyau a chymysgu’r cyfan, gan ychwanegu’r llaeth yn raddol, nes cael cytew heb fod yn rhy sych.
- Iro dau dun ymyl-uchel, rhannu’r cymysgedd yn gyfartal rhyngddynt, a’u crasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw awr a hanner.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.