Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Cawl Coch Ysgyfarnog
Aberteifi, Ceredigion
![](/media/36631/DF107011-Resized.jpg)
Bwyteid y cawl, y tatws a’r cig gyda’i gilydd.
Rhydlewis, Aberteifi.
Y Rysáit
Byddwch angen
- ysgyfarnog
- moron
- tatws
- ychydig o gennin a phersli
- ychydig o halen
- llond llwy fwrdd o flawd ceirch
- galwyn a hanner o ddŵr oer
Dull
- Blingo’r ysgyfarnog a’i glanhau, ei thorri’n ddau ddarn a’u rhoi i sefyll mewn dŵr a halen dros nos.
- Rhoi’r ysgyfarnog a’r moron (wedi’u torri’n fân) mewn sosban fawr, arllwys y dŵr oer arnynt a’u codi i’r berw.
- Yna ychwanegu’r halen, y persli a’r cennin atynt.
- Cymysgu’r blawd ceirch ag ychydig o ddŵr oer a’i arllwys i’r cawl gan ferwi’r cyfan nes y bo’r cig yn dod yn rhydd oddi wrth yr esgyrn.
- Codi’r cig allan o’r cawl, ac yna rhoi’r tatws i ferwi ynddo am ryw ugain munud.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.