Amser Bwyd
Sowans
Pren-gwyn, Ceredigion
‘Uwd’ neu ‘uwd sucan’ y gelwid y bwyd hwn yn ne sir Aberteifi ac yng ngogledd sir Benfro, e.e.
Pren-gwyn, Aberteifi.
Brynberian, Penfro.
Ar y ffermydd berwid llond crochan o sucan ar ddiwrnod cywain gwair. Arllwysid y sucan i bedyll mawr a’u cario allan i’r cae erbyn cinio. Ceir sylwadau diddorol ar lafar ynglŷn â’r dulliau o brofi ansawdd y sucan wrth ei ferwi. Wrth godi ychydig o’r cymysgedd ar flaen y pren ‘rhaid iddo ffurfio rheffyn fel cwt cath’ meddid (Croes-lan, Aberteifi), neu ‘dylai’r sucan ddisgyn o’r pren fel cwt buwch’ (Llandysul, Aberteifi), neu ‘yr uwd yn berwi fel llygad eidion’ (Brynhoffnant, Aberteifi). Rhoid sylw hefyd i wyneb y sucan ar ôl iddo oeri; ‘roedd gweld wyneb llyfn i’r sucan, heb yr un hollt ynddo, yn braw far fedrusrwydd y wraig a fu’n gyfrifol am ei ferwi. Ar y llaw arall, pe bai’r wyneb wedi hollti, yr hen ddywediad oedd ‘bod wyneb salw gan gariad y ferch a’i gwnaeth’.
Blawd sucan
Y mae’r dull o baratoi’r blawd arbennig hwn yn amrywio o felin i felin. Dyma dystiolaeth a gafwyd gan un melinydd: Ar ôl crasu a silio’r ceirch (gw. y nodyn ar flawd ceirch) byddid yn malu’r pilcorn yn fân. Yna er mwyn cael blawd ceirch pur byddid yn gogryn y blawd hwn â gogr mân iawn. Gelwid yr hyn a fyddai’n aros yn weddill yn y gogr (sef cymysgedd o flawd ceirch ac eisin) yn flawd (neu fwyd) sucan.
Crug-y-bar, Caerfyrddin.
Y Rysáit
Byddwch angen
- llond dysgl o flawd sucan
- peint a hanner o ddŵr oer
Dull
- Rhoi’r blawd sucan yn wlych yn y dŵr oer dros nos.
- Drannoeth, hidlo’r cymysgedd drwy ogr mân gan wasgu’r trwyth yn llwyr o’r blawd.
- Berwi’r trwyth mewn sosban a’i droi’n ddibaid â phren sucan (neu lwy bren).
- Codi ychydig o’r cymysgedd ar flaen y pren, ac os gwelir ei fod yn ffurfio cynffon fain wrth ddisgyn yn ôl i’r sosban ystyrrir bod y sucan wedi berwi i’r ansawdd priodol.
- Arllwys dŵr oer dros ddysgl, arllwys y sucan iddi, a’i adael i oeri a chaledu.
- Rhoi llaeth oer mewn basn a chodi talp o’r sucan iddo.
Pren-gwyn, Aberteifi.
sylw - (1)
“Swccwr mewn ty mae sucan,
Hoff ei liw mewn ffiol lan.
Bwdran wna bawb edrych
Eleni yn gewri gwych.”
Cerdd gan fy hen hen hen hen wncwl, Rees 'Amnon' Jones o Dalgarreg (1797-1844) o'i gasgliad 'Crwth Dyffryn Clettwr'.
Oedd fy mamgu, Gwyneth Mai Thomas, o Landysul (1903-1983) yn sôn am orfodi ei thad I bryniu rhaca iddi er mwyn iddi helpu gyda'r cynhaeaf
fel bod hi'n cael sucan gydag hufen ar ei ben fel tâl. Stwff gwych medde hi!