Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Uwd Blawd Ceirch

Pen Llŷn, Gwynedd

Enghraifft o'r bwrdd mawr y byddai'r gweision yn eistedd wrtho wrth fwyta'u prydau bwyd.

Byddid yn ei fwyta mewn llefrith neu laeth enwyn oer.

Mynytho, Llŷn.

Byddid yn rhoi hanner llond cwpan o reis yn yr uwd, weithiau, i’w ysgafnhau.

Llanuwchllyn, Meirionnydd.

Uwd a gai’r gweision i swper bob nos yn rheolaidd yn Llŷn, sir Gaernarfon, ac mewn llawer ardal arall yng ngogledd Cymru.  Rhoid y crochan uwd ar ddarn o bren ar ganol y bwrdd a chai pob un ei helpu ei hun ohono, e.e.

Uwchmynydd, Llŷn.

Uwd amrwd y gelwid yr uwd na chafodd ei ferwi am ddigon o amser.  Yr oedd hi’n ddefod ar rai ffermydd i roi’r crochan uwd ar y tân yn union ar ôl te prynhawn er mwyn iddo gael mud-ferwi am ddwy awr neu ragor cyn swper.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • blawd ceirch
  • dŵr oer
  • halen

Dull

  1. Rhoi dŵr oer ac ychydig o halen mewn sosban, a chodi’r dŵr i’r berw. 
  2. Gollwng blawd ceirch, fesul ychydig, i’r dŵr berw gan gymysgu’r blawd i mewn i’r dŵr â llwy bren.  (Y mae hyn yn rhwystro’r blawd rhag mynd yn dalpiau.) 
  3. Parhau i ychwanegu blawd ceirch nes gwelir yr uwd yn tewhau. 
  4. Berwi’r uwd yn araf am amser hir gan roi tro iddo bob hyn a hyn.

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.