Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Malu torth geirch gan ddefnyddio'r malwr. Mrs Catrin Jones, Y Bala, Meirionnydd.
‘Roedd hwn yn fwyd hwylus i’w gario allan i’r caeau adeg y cynhaeaf fel tamaid rhwng prydau i’r gweithwyr, ac yr oedd plant yn hoff o’i gario i’r ysgol ar gyfer eu cinio yn yr haf.
Prion, Dinbych.
Yr oedd bri mawr ar fwyta siot i de prynhawn mewn llawer ardal yn ystod misoedd yr haf. Nid oedd dim yn well i dorri syched ar ôl treulio rhai oriau allan ar y cae gwair.
Ceir amrywiadau ar y bwyd hwn, e.e.,
Siot gynnes – tywallt llaeth enwyn cynnes ar y bara ceirch.
Siot bosel – tywallt llefrith cynnes ar y bara ceirch ac ychydig o laeth enwyn oer ‘yn ei lygad’.
Siot faidd – defnyddio maidd yn lle llaeth enwyn ar ddiwrnod ‘ceulo’.
Y Parc, Meirionnydd.
‘Picws mali’ yw’r enw a arferir ar y bwyd hwn mewn rhannau eraill o ogledd Cymru, e.e. Mynytho, Caernarfon.
Llanuwchllyn, Meirionnydd.