Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Brŵes Bara Ceirch

Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Malwr bara ceirch

Arferid ei fwyta’n rheolaidd i frecwast bob dydd Sul a dydd Mercher yn Llŷn.

Brwes trodnoeth neu brwes pig tegell y gelwid yr hwn a baratoid drwy roi ychydig o saim ar wyneb y bara ceirch a thywallt dŵr berw arno.

Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • torth geirch heb saim ynddi
  • potes cig eidion
  • pupur a halen

 

Dull

  1. Malu’r dorth geirch yn fân â malwr bara ceirch neu rolbren, a’i roi mewn powlen. 
  2. Tywallt potes poeth arno a’i flasu â phupur a halen. 
  3. Ei adael i chwyddo am rai munudau cyn ei fwyta.

Uwchmynydd, Llŷn.

 

sylw (3)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Glyn Jones
2 Ionawr 2022, 10:55
Brwas
Still eat this from time to time in Cerrig y Drudion area.
Two slices of bread,half a hand full of oats good knob of salted butter and two OXO cubes (was traditionally made with beef dripping) then pour over with boiling water leave to rest for a few minutes turn and enjoy!
Rhosddu
4 Chwefror 2021, 02:02
This dish was not restricted to Pen-Llyn but extended to Y Gogledd Dwyrain. My nain was regularly given it in the Wrecsam area by her Welsh-speaking parents in the Edwardian era, and she in turn fed it to my mam once or twice in the forties, using the above-mentioned OXO cube.
Henry Jackson
25 Mawrth 2020, 21:12
Brewis or brwas as it was known to us in Eglwysbach
during the 50s and 60s was made up of a slice of bread an oat cake, both crumbled up in a bowl ,an OXO cube crumbled over and a knob of butter, then pour over boiling water, allowing to stand for a minute then enjoy ?