Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Bwdram

Aberteifi, Ceredigion

‘Roedd hwn yn fwyd cyffredin ar gyfer swper mewn rhai ardaloedd a cheir tystiolaeth fod bwdram ac ysgadan ffres yn bryd arbennig yn ardal Aber-porth ar yr un adeg, e.e. Brynhoffnant, Aberteifi.

‘Roedd bwdram yn cael ei roi yn fwyd i’r fam ar ôl iddi eni plentyn; rhoid siwgr, ymenyn a sinsir ynddo i’w flasu.

Cwm-bach, Caerfyrddin.

 

Y Rysáit

Byddwch angen

  • llond dysgl o flawd sucan – neu flawd ceirch
  • chwart o ddŵr claear

Dull

  1. Rhoi’r blawd sucan yn wlych yn y dŵr claear dros nos. 
  2. Yna ei hidlo drwy ogr mân gan ychwanegu ychydig o ddŵr ato os bydd y trwyth yn rhy dew.
  3. Berwi’r trwyth mewn sosban a’i droi’n ddibaid am ryw bum munud. 
  4. Malu bara i ddysgl a thywallt y bwdram arno.

Rhydlewis, Aberteifi.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.