Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Maidd yr Iâr

Ynys Môn

Dysgl wyau

Y Rysáit

Byddwch angen

  • tafell dew o fara
  • wy neu ddau
  • hanner peint o lefrith
  • ychydig o nytmeg, sinsir a siwgr

Dull

  1. Malu’r bara i sosban. 
  2. Curo’r wyau’n dda a’u tywallt ynghyd â’r llefrith ar y bara. 
  3. Ychwanegu’r sinsir, y siwgr a’r nytmeg atynt. 
  4. Rhoi’r sosban wrth ymyl y tân nes bod y cynnwys yn gynnes ond heb ferwi.
  5. Gellir ei grasu mewn popty gweddol boeth os dymunir.

Caergybi, Môn.

  1.  Malu’r bara i bowlen. 
  2. Curo’r wy yn dda, rhoi llefrith poeth (heb fod yn berwi) arno a’u tywallt ar y bara yn y bowlen. 
  3. Ychwanegu halen a siwgr, yn ôl y dewis. 
  4. Rhoi plât ar wyneb y bowlen a’i adael i sefyll am ychydig o amser cyn ei fwyta.

Llanfachreth, Môn.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Jo
25 Rhagfyr 2021, 02:08
I’m sure my nan used to make this for me when I couldn’t sleep she said it had sleepy powder on it .
I’m sure she called it papsee