Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Diod Fain

Aberdâr, Rhondda Cynon Taf

Gwnâi amryw o’r gwragedd a oedd yn byw ym mhentrefi glofaol de Cymru y ddiod hon yn rheolaidd i’w gwerthu o’u cartrefi.  Dyma’r ddiod a oedd orau gan y glowyr er ‘torri syched’ pan gyrhaeddent adref o’r pwll glo, ac yr oedd hi’n arfer gan rai teuluoedd ei hyfed gyda’u cinio ar ddydd Sul.  Deuai’r cwsmeriaid at ddrws tŷ’r sawl a’i gwnâi i brynu’r ddiod am ryw ddwy geiniog y botel.

Aberdâr, Morgannwg.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pedwar pwys o siwgr gwyn
  • pwys o siwgr coch
  • chwarter pwys o wreiddiau sinsir
  • llond dwrn o ddail dant y llew
  • tua phum coesgyn o ddail danadl poethion
  • tri galwyn o ddŵr
  • tua llond cwpan a hanner o furum tafarn
  • crwyn un lemon ac un oren wedi’u malu’n fân

 

Dull

  1. Golchi’r dail yn lân a’u rhoi yn y dŵr ynghyd â’r holl ddefnyddiau eraill, ac eithrio’r siwgr a’r burum.
  2. Berwi’r cyfan am ryw hanner awr. 
  3. Rhoi’r siwgr mewn padell fawr a hidlo’r trwyth berw drosto i’w doddi. 
  4. Cymryd gofal bod y siwgr wedi toddi’n llwyr cyn ychwanegu dau alwyn o ddŵr oer at y trwyth. 
  5. Gadael iddo glaearu hyd at naws gwaed cyn rhoi’r burum ynddo a’i gymysgu drwyddo’n drwyadl.
  6. Gorchuddio wyneb y badell â lliain glân, ei rhoi mewn lle cynnes a gadael i’r burum ‘weithio’ dros nos. 
  7. Codi ‘wyneb’ y ddiod fore trannoeth cyn ei harllwys i boteli.

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.