Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Potes Cig Pen Oen ac Iau

Caernarfon, Gwynedd

Crochan haearn bwrw, Rhaeadr Gwy

Crochan haearn bwrw, Rhaeadr Gwy

‘Pinshons’ oedd yr enw ar y bwyd hwn yn ardal Bethel, sir Gaernarfon, ac fe’i paratoid ar gyfer ‘swper chwarel ’ yno.


 

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pen oen
  • iau
  • dŵr
  • nionod
  • halen

Dull

  1. Rhoi’r pen a’r iau i sefyll mewn dŵr a halen dros nos.
  2. Drannoeth eu golchi’n lân a’u glanhau.
  3. Berwi’r pen a’r iau a’r nionod mewn sosban nes y bo’r cig yn rhyddhau oddi wrth yr esgyrn. 
  4. Codi’r pen a’r iau allan o’r dŵr, tynnu’r cig oddi ar yr esgyrn, a thorri’r cig a’r iau yn ddarnau bychain (tua chwarter modfedd ar draws) a’u rhoi’n ôl yn y potes.
  5. Codi’r potes i ddysglau a’i fwyta’n gynnes.

Rhostryfan, Caernarfon.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.