Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Diod Sinsir

Llanarthne, Sir Gaerfyrddin

Potel gwin.

Yr oedd hon yn ddiod poblogaidd gan y ffermwyr ar y cae gwair.

Llanarthne, Caerfyrddin.

 

Y Rysáit

Byddwch angen

  • llond dwrn o ddail dant y llew
  • ychydig o ddail cyrens duon
  • hanner coesgyn o riwbob
  • lemon bach
  • dau chwart o ddŵr oer
  • gwreiddiau sinsir wedi’u cleisio
  • owns o furum ar dafell o fara
  • dau bwys o siwgr gwyn
  • galwyn o ddŵr berw

Dull

  1. Rhoi’r dail, y riwbob a’r lemon (wedi’i dafellu) ynghyd â’r sinsir yn y dŵr oer a’u berwi am hanner awr. 
  2. Hidlo’r trwyth i badell fawr, ychwanegu’r dŵr berw ato a thoddi’r siwgr iddo.
  3. Ar ôl iddo oeri at naws gwaed rhoi’r burum ar ei wyneb a’i adael i ‘weithio’ dros nos.
  4. Ei hidlo drannoeth a’i roi mewn poteli.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.