Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Gwin Eirin Ysgawen

Pontyberem, Sir Gaerfyrddin

Potel gwin.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pedwar peint o eirin ysgawen
  • galwyn o ddŵr oer
  • tri chwarter pwys o siwgr ar gyfer pob chwart o’r trwyth
  • dau owns o furum wedi’i daenu ar dost
  • tair owns o glows mewn cwd mwslin

Dull

  1. Arllwys y dŵr dros yr eirin a’u berwi am hanner awr cyn ychwanegu’r siwgr a’r clows atynt. 
  2. Berwi’r cyfan am bymtheng munud eto. 
  3. Hidlo’r trwyth hwn i badell bridd a’i adael i glaearu hyd at naws gwaed cyn rhoi’r burum ar dost ar ei wyneb. 
  4. Tynnu’r tost allan drannoeth a gadael y gwin i ‘weithio’ am bum niwrnod, gan godi’r hyn a ddaw i’r wyneb fel y bo angen. 
  5. Yna arllwys y gwin i boteli. 
  6. Bydd y gwin yn dal i ‘weithio’ a gorlifo dros y poteli, a gwelir bod angen eu hail-lenwi bob hyn a hyn.  (Defnyddir cynnwys un botel i lenwi’r lleill.) 
  7. Rhoi’r corcyn yn llac yng ngheg pob potel, a’u tynhau ymhen rhyw fis o amser pan welir bod y gwin wedi tawelu.

Pontyberem, Caerfyrddin.

sylw (3)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Geoff Davies
26 Mawrth 2020, 23:14
float the toast with the yeast on the wine.
after 4 in the Recipe cover earthen pan with tea towels to stop the wine fly from getting to the wine.Mamgu used to dampen the tea towels so thy would mould to the shape of the pan
this is the way Mamgu in Crynant made it 1958. all the best Geoff
Marc Haynes Staff Amgueddfa Cymru
5 Tachwedd 2019, 14:27

Hi Geoff,

Thank you for spotting this mistake; we have now corrected it.

Best wishes,

Marc
Digital Team

geoff davies
29 Hydref 2019, 19:38
Ingredients Welsh instructions English?