Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Shampein Eirin Ysgaw

Pontyberem, Sir Gaerfyrddin

Potel gwin.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • deg pwys o eirin ysgaw
  • wyth bwys o rawnwin gwyrdd
  • chwe phwys o eirin duon
  • pedwar pwys ar ddeg o siwgr
  • tair owns o furum wedi’i daenu ar dafell drwchus o dost
  • pedwar galwyn o ddŵr berw

Dull

  1. Rhoi’r eirin ysgaw, y grawnwin gwyrdd, wedi’u gwasgu, a’r eirin duon mewn padell bridd a’u gorchuddio â’r dŵr berw. 
  2. Cymysgu’r ffrwythau drwy’r dŵr ddwy waith bob dydd am bymtheng niwrnod. 
  3. Yna hidlo’r cyfan drwy ogr mân a mwslin ynddo i’w lanhau mor llwyr ag sy’n bosibl. 
  4. Codi’r trwyth hwn i’r berw a’i dynnu oddi ar y gwres cyn toddi’r siwgr iddo.  (Ni ddylid ei ferwi ar ôl rhoi’r siwgr ynddo.) 
  5. Arllwys y trwyth yn ôl i’r badell bridd a’i adael i oeri hyd at naws gwaed cyn rhoi’r burum ar dost ar ei wyneb. 
  6. Tynnu’r tost allan ohono drannoeth a gadael i’r gwin ‘weithio’ am saith niwrnod, gan godi’r hyn a ddaw i’r wyneb bob dydd. 
  7. Yna arllwys y gwin i boteli. 
  8. Bydd y gwin yn dal i ‘weithio’ a gor-lifo dros y poteli a gwelir bod angen eu hail-lenwi bob hyn a hyn.  (Defnyddier cynnwys un botel i lenwi’r lleill.)
  9. Gwneud corcyn o bapur ymenyn i’w roi yng ngheg pob potel am y mis neu’r chwech wythnos cyntaf. 
  10. Eu corcio’n dynn ar ôl hynny.

Pontyberem, Caerfyrddin.

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.