Glanhau pen y mochyn, tynnu’r llygaid allan a thorri’r clustiau i ffwrdd.
Ei dorri’n ddarnau hwylus i’w trafod a’u gorchuddio â dŵr a halen am dri neu bedwar diwrnod.
Yna golchi’r darnau’n lân cyn eu rhoi mewn sosban fawr i’w berwi ynghyd â’r darn cig eidion, y tafod a’r arennau.
Berwi’r cyfan am dair awr nes gwelir y cig yn rhyddhau oddi ar yr esgyrn, ei roi mewn dysgl fawr a’i falu’n fân â chyllell.
Ei flasu â phupur a halen, ei gymysgu’n dda a’i roi mewn dysgl bridd i oeri a chaledu. Gellir, os dymunir, ei roi mewn rhidyll bras, ei orchuddio â phlât a rhoi pwysau arno i wasgu’r braster allan ohono.
Torri’r cosyn pen yn dafelli ar ôl iddo oeri.
Tonyrefail, Morgannwg.
Ffilm/Recordiad
Mrs Elizabeth John, Pen-caer, Penfro yn sôn am wneud brôn. Ganed Mrs JOhn ym 1891.
Gwneud brôn yn fferm Bryn Siô, Abercywarch
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.