Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Medd

Llanfachraeth, Sir Fôn

Y Rysáit

Byddwch angen

  • owns o hopys sych
  • pedwar pwys o fêl (newydd ei dynnu o’r cwch gwenyn)
  • dau alwyn o ddŵr
  • owns o furum wedi’i daenu ar dost

Dull

  1. Tywallt y dŵr dros y mêl a’r hopys a’u berwi’n araf am awr. 
  2. Yna hidlo’r trwyth i badell a’i adael i glaearu cyn rhoi’r burum ar ei wyneb. 
  3. Cymysgu’r trwyth yn dda fore trannoeth a thynnu’r tost allan ohono. 
  4. Gorchuddio’r badell â lliain a’i rhoi o’r neilltu am bum niwrnod cyn hidlo’r trwyth drachefn, a’i roi mewn poteli. 
  5. Gadael i’r burum orffen ‘gweithio’ cyn rhoi corcyn yn dynn yng ngeg pob potel. 
  6. Dylid cadw’r medd am flwyddyn cyn ei yfed.

Llanfachreth, Môn.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.