Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Bara Lawr
Ceredigion
Y dull mwyaf cyffredin o goginio bara lawr yn siroedd de Cymru yw ei ffrio gyda chig moch.
Y Rysáit
Byddwch angen
- gwymon y môr (dail duon, tenau)
- halen
- blawd ceirch
Dull
- Golchi’r gwymon yn drwyadl mewn dŵr oer, ei roi mewn sosban a’i ferwi’n araf am rai oriau.
- Nid oes angen rhoi dŵr yn y sosban gan fod digon o ddŵr yn y dail eu hunain.
- Pan welir bod y dail wedi meddalu, hidlo’r dŵr ohonynt yn llwyr, eu malu’n fân â chyllell a’u blasu â halen.
- Llunio’r cymysgedd hwn yn beli bach a’u gorchuddio ag ychydig o flawd ceirch.
Rhydlewis, Aberteifi.
Ffilm/Recordiad
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.