Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Llymrîaid

Nefyn, Gwynedd

Nid peth anghyffredin oedd gweld gwŷr, gwragedd a phlant yn hel llymrïaid ar y traethau ar noson olai leuad yn ystod misoedd yr haf gynt.  Byddid yn ‘llymreita’ liw nos ar ôl y llanw, a defnyddid rhaw neu gryman i durio am y pysgod bach hyn a ymguddiai yn y tywod.  Fel rheol, byddai un person yn turio amdanynt ac un arall yn eu codi i fwced neu biser.

Pen-bryn, Aberteifi.

 

Y Rysáit

Byddwch angen

  • tua llond mesur chwart o lymrïaid
  • saim cig moch

Dull

  • Golchi’r llymrïaid yn dda, torri’u pennau i ffwrdd, gwasgu’r perfedd allan a’u ffrio mewn saim cig moch. 
  • Gellir ffrio nionyn gyda hwy, os dymunir.
  • Byddid yn eu bwyta i ginio neu swper, fel rheol.

Nefyn, Llŷn.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.