Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Gwichiaid

Aberdaron, Gwynedd

Yr oedd hi’n gred gyffredin ymhlith yr hen bobl na ddylid bwyta gwichiaid oni fyddai’r llythyren ‘r’ yn enw Saesneg y mis.  Aent hwy i’w hel mewn tyllau o dan gerrig neu wymon ar y traeth, gyda’r trai.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • tua llond mesur chwart o wichiaid
  • dŵr a halen

Dull

  1. Rhoi’r gwichiaid mewn sosban, eu gorchuddio â dŵr ac ychydig o halen ynddo a’u codi i’r berw.  Ni ddylid eu berwi gan fod hynny’n peri iddynt fynd yn wydn ond eu gadael i oeri yn y dŵr berw hwn.
  2. Yna eu tynnu allan o’u cregyn, eu blasu â phupur a halen a’u bwyta ar unwaith.

Aberdaron, Llŷn.

  1. Berwi’r gwichiaid mewn dŵr a halen am ryw hanner awr nes gwelir hwy’n dod allan o’u cregyn. 
  2. Yna eu ffrio mewn ychydig o saim cig moch a thorri wy neu ddau drostynt. 
  3. Cymysgu’r gwichiaid i mewn i’r wyau â llwy bren wrth eu ffrio, neu gadw’r wyau’n gyfan, yn ôl y dewis.

Nefyn ac Ynys Enlli.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.