Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Llygaid Meheryn

Penbryn, Ceredigion

‘Llygaid y graig’ yw’r enw a arferir am y pysgod hyn mewn rhai ardaloedd, e.e.

Aber-porth, Aberteifi.

Ni fyddai’r gwŷr a’r gwragedd yn hel y pysgod hyn gynt oni fyddai’r llythyren ‘r’ yn enw Saesneg y mis.  Y mae’r cregyn yn glynu’n dynn wrth y creigiau ar lan y môr ond yr oedd gan yr hen bobl ffordd arbennig o’u cael yn rhydd oddi yno.  Eu cyfrinach hwy oedd rhoi cyllell o dan y gragen a’i bwrw ymaith yn sydyn i ddysgl neu fwced.  Gan fod maint y gragen yn fawr a’r ‘llygad’ yn fach rhaid oedd casglu nifer helaeth ohonynt cyn cael digon i wneud pryd.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • llygaid meheryn
  • blaenion dail danadl poethion
  • dŵr a halen

Dull

  1. Berwi’r ‘llygaid’ mewn dŵr a halen am dipyn o amser cyn eu tynnu allan o’r cregyn.  (Byddid yn rhoi blaenion dail danadl poethion i mewn yn y dŵr gyda hwy i’w breuhau, weithiau.)
  2. Yna, golchi’r ‘llygaid’ a’u torri’n ddarnau (torri pob un ohonynt yn bedwar darn, fel rheol) cyn eu ffrio mewn saim cig moch.  Gellir ysgwyd ychydig o flawd ceirch drostynt wrth eu ffrio.

Pen-bryn, Aberteifi.

  1.  Eu ffrio mewn saim cig moch gyda ‘nionyn ac wy oedd yr arfer mewn ambell ardal, e.e. Uwchmynydd, Llŷn.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.