Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Rhython
Garnant, Sir Gaerfyrddin
Arferai gwragedd fynd o gwmpas y tai mewn rhai pentrefi yn ne Cymru i werthu cocos. Aent o ddrws i ddrws gan gario ‘cocs rhython’ mewn stwc bren ar y pen a ‘chocs cregyn’ mewn basged fawr ar y fraich. Yr oedd y cocs rhython wedi’u berwi a’u tynnu allan o’u cregyn, ond nid oedd y cocs cregyn wedi’u trin o gwbl. Gwerthid y naill am tua naw ceiniog y peint a’r lleill am chwe cheiniog y peint.
Y Rysáit
Byddwch angen
- tua llond mesur chwart o rython
- llaeth
- cennin syfi neu bersli wedi’u torri’n fân
- halen
- blawd
Dull
- Berwi’r rhython yn y llaeth, ychwanegu’r cennin neu’r persli atynt a’u blasu â halen.
- Cymysgu ychydig o flawd mewn llaeth oer, ei arllwys at y gweddill yn y sosban a berwi’r cyfan drachefn.
- Bwyta’r ‘saws’ hwn yn gynnes gyda bara ‘menyn.
Garnant, Caerfyrddin.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.