Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Cocos ac Wyau
Cricieth, Gwynedd
Byddid yn bwyta’r cocos a’r wyau gyda brechdan o fara haidd a bara ceirch yn ardal Porthmadog, ac fe’u cyfrifid yn foethyn yno. Byddai gwragedd Penrhyndeudraeth yn cerdded i Borthmadog gynt i werthu cocos. Aent o ddrws i ddrws gan ddawnsio a chanu’r rhigwm:
‘Cocos a wya
Bara ceirch tena
Merched y Penrhyn
Yn ysgwyd ‘u tina!’
Y Rysáit
Byddwch angen
- tua chwart o gocos (yn eu cregyn)
- dau neu dri wy wedi’u curo
- saim cig moch
- pupur du
Dull
- Tywallt dŵr dros y cocos mewn sosban a’u codi i’r berw. (Peidio â’u gor-ferwi gan fod hynny’n peri iddynt fynd yn wydn.)
- Tynnu’r cocos allan o’u cregyn, eu golchi’n drwyadl a’u taenu ar liain mawr i’w sychu.
- Yna eu ffrio mewn ychydig o saim cig moch, a’u troi a’u trosi yn y saim cyn tywallt yr wyau arnynt.
- Cymysgu’r cyfan â llwy bren wrth eu ffrio, a’u blasu â phupur du.
Cricieth, Caernarfon.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.