Dechreuadau'r Eisteddfod Genedlaethol
Erbyn cyrraedd diwedd y mudiad eisteddfodol cyffrous yma yn Y Fenni, yr ola o'r eisteddfodau yn Y Fenni yn 1853, mae'n amlwg erbyn hynny fod yr Eisteddfod ar drothwy, os mynnwch chi, cyfnod arbennig o gyffrous. Erbyn hynny mi roedd gyda chi reilffyrdd ar hyd a lled Cymru. Mi roedd y trên bellach yn ei gwneud hi'n bosibl i chi ddod â miloedd o bobl o bob rhan o Gymru i'r gwahanol fannau lle fydden nhw'n cynnal yr eisteddfodau. Hynny yw, mae yna gyfnod newydd wedi cyrraedd, ac erbyn canol y pumdegau mi roedd pobl yn dechrau sôn am Eisteddfod Genedlaethol, hynny yw bod hi'n bryd bellach i greu un eisteddfod, a fyddai'n flynyddol, os oedd modd, a fyddai'n flynyddol yn crisialu yr hyn oedd y diwylliant eisteddfodol yng Nghymru.
Beth oedd pwysigrwydd y diwylliant hwnnw, beth oedd ei ran e, os mynnwch chi, o ran cynnal morale, cynnal ysbryd y Cymry? Oherwydd pan ddewch chi wrth gwrs at y pumdegau, y'ch chi'n dechre sôn am yr Eisteddfodau yng nghysgod cyhoeddi y Llyfrau Gleision - y Llyfrau Gleision a welodd olau dydd wrth gwrs, 1846/47, a'r Llyfrau Gleision a wnaeth yr ymosodiad enwog hwnnw ar gymeriad y Cymry fel cenedl a'u cael nhw yn arbennig o brin.
O'r flwyddyn 1847 ymlaen mae mor glir â'r dydd bod hi o'r pwys mwyaf i'r Cymry i greu delwedd genedlaethol newydd, delwedd mewn gwirionedd a fyddai'n amddiffyn eu henw da nhw, yn dangos eu bod nhw yn genedl a oedd yn haeddu clod, ac nid yn genedl os mynnwch chi a oedd yn haeddu ei sarhau. Ac ar gyfer delwedd o'r natur yna, wel, roedd rhaid i chi gael llwyfan, neu os mynnwch chi, ffenest siop, er mwyn i chi gael dweud wrth y byd eich bod chi wedi cael cam. Ac mae pobl o'r natur yma ych chi, ac ŷn ni'n haeddu gwell gan y byd.
Mi roedd y siarad hwnnw'n gryf erbyn y pumdegau, doedd gyda chi'r un sefydliad cenedlaethol arall a fyddai'n gallu llwyfannu delwedd gyfadferol o'r natur yna. Fe ddechreuwyd siarad mewn difri am Eisteddfod Genedlaethol, ac yn y flwyddyn 1858 wele ddigwyddiad llachar. Un arall o'r clerigwyr eto, John Williams ab Ithel, a oedd wedi meddwi ar syniadau Iolo Morgannwg, ac yn credu gant y cant yng Ngorsedd y Beirdd, ac yn ddyn hefyd a chryn dipyn o'r entrepreneur ynglyn ag e. Mi welodd John Williams ab Ithel beth oedd arwyddocâd dyfodiad y trên, ac mi benderfynodd e gynnal eisteddfod orseddol yn Llangollen ym Medi 1858, a fyddai os mynnwch chi, os nad yn Eisteddfod Genedlaethol go iawn, yn sicr yn rhagfynegiad o'r hyn fyddai Eisteddfod Genedlaethol.
Eisteddfod Fawr Llangollen, 1858
Ac mae Eisteddfod fawr Llangollen, 1858 yn ddigwyddiad rhyfeddol o arwyddocaol. Do, fe fuodd hi'n eisteddfod stormus iawn. Yn honno, os cofiwch chi, y gwrthodwyd ei wobr i'r enwog Tomos Stephens o Ferthyr, am ei draethawd godidog yn chwalu'r chwedl am Fadog yn darganfod America. Roedd John Williams a'i gyfeillion wedi disgwyl am draethawd a fyddai'n cadarnhau'r chwedl. Oherwydd ei chwalu hi doedden nhw ddim yn fodlon o gwbl i anrhegu Tomos Stephens ac mi aeth hi'n storom fawr yn yr Eisteddfod honno.
Ac wrth gwrs, yr yr eisteddfod honno fe ymddangosodd gŵr ifanc, bardd, a oedd yn mynd i fod yn eilun y genedl hyd at ei farw yn y flwyddyn 1887. I'r eisteddfod honno, i ennill gwobr am rieingerdd, sef cerdd serch, 'Myfanwy Fychan o Gastell Dinas Brân', mi ddôth neb llai na Cheiriog. John Ceiriog Hughes, bob cam o Fanceinion lle'r oedd e'n byw ar y pryd, ac mi fuodd 'Myfanwy Fychan' yn 'hit' ryfeddol o'r foment y darllenwyd hi gynta' yn Eisteddfod Fawr Llangollen. Mae yna un rheswm arbennig pam, fyddwn i'n dweud. Yn y Llyfrau Gleision enbyd yn 1847, roedd merched Cymru wedi'u sarhau. Mi roen nhw wedi cael yr enw o fod yn ferched llac eu moesau, mi roedd plant siawns yng Nghymru fel gwsberis ar lwyn, ac mi roedd y Cymry wedi teimlo hyn i'r byw. Yr hyn wnaeth Ceiriog yn anad dim, yn 1858 yn Llangollen, oedd creu patrwm o Gymraes deilwng, delediw, hardd, foesol, foesgar, ac mi syrthiodd y Cymry mewn cariad â Myfanwy Fychan dros nos.
Sefydlu Corff Cenedlaethol, 1860
O Eisteddfod fawr Llangollen yn 1858 fe symudwn ni at eisteddfod Dinbych 1860 oherwydd yn honno y penderfynwyd sefydlu corff cenedlaethol a'i alw fe Yr Eisteddfod ac fe fyddai i'r corff hwnnw Bwyllgor Gwaith a fyddai'n galw ei hunan Y Cyngor ac mi fyddai aelodau'r Cyngor yn câl eu hethol. Wel, y corff hwnnw aeth ati hi i greu Eisteddfod Genedlaethol swyddogol a honno i'w chynnal yn y De a'r Gogledd bob yn ail. A dyna'n union a ddigwyddodd.
Fe gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol swyddogol gynta yn Aberdâr yn 1861 ac o Aberdâr fe aeth hi i Gaernarfon yn '62, i Abertawe yn '63, i Landudno yn '64, i Aberystwyth yn '65, allan i Gaer yn 1866, nôl i Gaerfyrddin yn '67 a gorffen ei thaith yn Rhuthin yn 1868 am y rheswm syml fod yr Eisteddfod wedi mynd i ddyled. A dyna chi'r Eisteddfodau Cenedlaethol modern cynta sydd wedi gadel eu hôl ar yr Eisteddfod Genedlaethol hyd at heddiw....
Aberdâr, 1861: medal Dafydd Morgannwg
O'r medalau sydd yn yr Amgueddfa, (ryd)yn ni wedi dewis rhyw dri, un ohonyn nhw'n drawiadol, o'r Eisteddfod Genedlaethol gynta' yn Aberdâr ym 1861. Medal yr enwog Dafydd Morgannwg, David Jones. Fe enillodd e'r medal hwn am draethawd ar hanes Morgannwg. Fe'i cyhoeddwyd. Mae'n para hyd at heddiw yn gyfrol arwyddocaol iawn. Ac mae plu'r Tywysog sydd ar y medal hardd yma yn dweud llawer wrthoch chi a fi am y ffordd yr oedd y Cymry'n dyheu am sêl bendith y teulu brenhinol ar eu gweithgareddau nhw.
Caernarfon 1862: cantata Tywysog Cymru
Mae'r medal ym 1862, wel medal Owen Alaw ydy hwnna, a enillodd am gyfansoddi cantata, un o'r cyfansoddiadau hynny yn y 60au a fu'n rhyfeddol o bwysig - cantata Tywysog Cymru. Owen Alaw a oedd wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth, Ceiriog odd piau'r geiriau, ac fe berffomiwyd y cantata honno yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe ym 1863, a'r pafiliwn dan sang. Fe ganwyd, wrth gwrs, gân bop y dwyrnod yn ystod y perfformans, sef, wrth gwrs, God Bless the Prince of Wales (roedd e newydd gal 'i ben-blwydd, wrth gwrs, yn un ar hugain oed). A Cheiriog, yn anad neb arall, oedd wedi bod yn gyfrifol am lunio'r geiriau Cymraeg, a Phencerdd Gwalia, wrth gwrs, oedd wedi bod yn gyfrifol am lwyfannu'r gân honno yn ystod y perfformiad yn Abertawe. Brinli Richards, fel y gwyddoch chi, y pianydd disglair o Gaerfyrddin, oedd wedi cyfansoddi'r alaw ar gyfer God Bless the Prince of Wales, ac roedd e, a'r telynor Pencerdd Gwalia, yn ddau ffigur brenhinol yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol cynta'.
Abertawe, 1863: dechrau cyfnod y canu corawl
Ac yn 1863, hefyd, mi welwch chi am y tro cynta' fedal a enillwyd am ganu corawl. Yn yr eisteddfod honno fe ddôth dau gôr wyneb yn wyneb â'i gilydd - côr Cymdeithas Cwm Tawe, dan arweiniad Evander Griffiths, a chôr Cymdeithas Gorawl Aberdâr dan arweiniad Silas Evans, a dyna'r gystadleuaeth fawr gynta'. Ac yno yn dyst iddi hi oedd H.F. Chorley, a oedd ohebydd cerdd i'r Atheneum, a pan ddywedodd Chorley ei fod e wedi'i syfrdanu gan ansawdd y canu corawl - oherwydd coliers a'u teuluoedd oedd y rhan fwyaf o'r aelodau yn y ddau gôr a glywodd e ym 1863 - pan ddywedodd e ei fod e wedi'i syfrdanu gan ansawdd eu canu nhw, ac na allai fe ddim ond meddwl am ryw chwech o gymdeithasau corawl yn Lloegr a allai gystadlu â nhw, wel, mi roedd cwpan y Cymry, wrth gwrs, yn gorlifo. Ac o'r adeg honno ymlaen mi welwch chi'r Eisteddfod Genedlaethol yn rhoi ei hwyau i gyd ym masged y corau a'r unawdwyr. Nhw oedd yn dwyn bri ar y Cymry.
Yr Eisteddfod a'r Gymraeg
Mae'r Eisteddfodau Cenedlaethol cynnar hyn, dan nawdd Yr Eisteddfod, a'r Pwyllgor Gwaith, os mynnwch chi, a odd yn galw'i hunan Y Cyngor, ma'r Eisteddfodau hynny, yn rhai rhyfeddol iawn, ac mewn gwirionedd man nhw wedi gadael eu hôl yn gryf ar yr Eisteddfod hyd at heddiw. Ac yn ystod yr eisteddfodau hynny, gyda llaw, yn y chwedegau, y gweloch chi yr iaith Saesneg yn llythrennol yn trechu'r Gymraeg. Un o'r pethau trista' yn hanes yr Eisteddfod yw'r modd y trowyd y 'Steddfod Genedlaethol gynta' yn rhyw fath o Eisteddfod Saesneg, yn bennaf oherwydd fod yr hen Gymry gymaint yng nghysgod y Llyfrau Gleision ac yn dyheu mewn gwirionedd am gael eu hystyried yn gynrychiolwyr cenedl brogresif. Fe drawsfeddiannwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gynnar gan yr iaith Saesneg a chan ddiwylliant y neuadd gerdd. Hynny yw, y cyngherddau a'r corau a'r unawdwyr yn anad dim a oedd yn cyfrif.