Beth yw Eisteddfod?

Er y gellir olrhain hanes yr eisteddfod i gystadleuaeth farddol a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Rhys yng nghastell Aberteifi yn 1176, yn niwedd y ddeunawfed ganrif mae gwreiddiau'r Eisteddfod Genedlaethol fodern fel yr adnabyddwn hi heddiw. Yn 1789 - blwyddyn y Chwyldro Ffrengig - penderfynodd cymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain noddi a rhoi gwell drefn ar y mân eisteddfodau a gynhelid mewn tafarndai ar hyd a lled Gogledd Cymru ar y pryd.

Iolo Morgannwg

Yn yr un cyfnod, roedd dychymyg byw Iolo Morganwg wedi esgor ar gymdeithas o feirdd o cherddorion o'r enw 'Gorsedd Beirdd Ynys Prydain', ond ni chysylltwyd yr Orsedd â'r Eisteddfod am y tro cyntaf tan 1819 pan gynhaliwyd cyfarfod arbennig iawn yng ngwesty'r Ivy Bush yng Nghaerfyrddin.

Gwobrau

Yn wahanol i heddiw, nid â chadeiriau a choronau y gwobrwywyd buddugwyr yr eisteddfodau hyn, ond â thlysau a medalau. Bwriad yr arddangosfa hon yw cyflwyno i gynulleidfa ehangach rai o'r medalau eisteddfodol sydd bellach yng nghasgliadau Sain Ffagan. Mae i bob un ei stori, a chawn glywed y stori honno trwy eiriau ffraeth yr Athro Hywel Teifi Edwards, sy'n awdurdod ar hanes yr Eisteddfod yn y cyfnod dan sylw.

Eisteddfodau Taleithiol

Cawn wybod nid yn unig am gymeriadau eisteddfodau'r Gwyneddigion, ond hefyd am hynt a helynt Eisteddfodau Taleithiol ddechrau'r 19eg ganrif, Arglwyddes Llanofer ac eisteddfodau Cymreigyddion y Fenni, a chynnal yr Eisteddfod Genedlaethol swyddogol gyntaf yn Aberdâr ym 1861.