Eisteddfodau Cymreigyddion y Fenni
Yr eisteddfodau taleithiol yn darfod yng Nghaerdydd yn 1834 ond mudiad newydd fel petai dan nawdd cymdeithas newydd, yn dechrau ar daith arall gofiadwy yn 1835 ac yn para hyd at 1851. Rwy'n cyfeirio at Eisteddfodau Cymreigyddion Y Fenni. Y wraig arbennig a noddodd eisteddfodau Cymreigyddion Y Fenni oedd wrth gwrs Arglwyddes Llanofer, yr enwog Gwenynen Gwent. Mi roedd hi wedi chwarae'i rhan yn yr eisteddfodau taleithiol. Mi roedd hi wedi bod yn noddreg i Maria Jane Williams, a oedd wedi casglu'r alawon at ei gilydd, Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg. Roedd hi wedi bod yn noddreg hefyd i'r enwog Thomas Stephens, oedd wedi ennill gwobr ryfeddol, Gwobr Tywysog Cymru, am y gyfrol yr y'm ni bellach yn ei hadnabod fel The Literature of the Cymry, cyfrol arbennig o ddylanwadol yn ei dydd. Ac mi roedd Gwenynen Gwent wedi bod hefyd o fewn y cylch derwyddol a dyna lle cafodd hi'r enw Gwenynen Gwent.
I bob pwrpas, Saesnes ronc o ran magwraeth, ond mi drodd allan i fod yn Gymraes ryfeddol o danllyd. Dwi ddim yn credu iddi hi erioed feistroli'r Gymraeg fel cyfrwng, nac yn llafar nac o safbwynt ei hysgrifennu hi, ond am ei hymlyniad hi wrth y diwylliant Cymraeg does yna ddim amheuaeth o gwbwl. Ac mi gafodd wrth gwrs gefnogaeth ei gŵr, Syr Benjamin Hall, a'r teulu yma ym Mhlas Llanofer a oedd yn bennaf gyfrifol, gyda chymorth yr enwog Thomas Price, y Parchedig Thomas Price, Carnhuanawc, a'r gŵr Tegid, a oedd wedi ennill y cwpan hardd yna yng Nghaerdydd ym 1834.
Gyda help pobl o'r natur yna y buodd Gwenynen Gwent a'i gwr, lawr ym Mhlas Llanofer - wel, fe fuon nhw'n gyfrifol wedyn am greu cyfres o ddeg eisteddfod yn Y Fenni. Maen nhw'n gwbwl ryfeddol a does dim byd o'u bath nhw mewn gwirionedd wedi bod yn hanes yr eisteddfod ers hynny. Mi roen nhw'n eisteddfodau nad oedden nhw ddim yn brin o arian o bell ffordd, mi roedd gwobrau rhyfeddol gymaint â phedwar ugain gini. 'Nôl ym mhedwardegau, y 1840au, roedd gwobrau o'r natur yna i'w hennill am draethodau ar ysgolheictod yn ymwneud â'r ieithoedd Celtaidd, a'r gwobrau hynny yn denu rhei o ysgolheigion Celtaidd pennaf Ewrop - o'r Almaen, Karl Meyer ac Albert Schultz - pobl o'r natur yna.
Hybu'r diwylliant Cymreig
Fe fuodd Eisteddfodau'r Fenni y pethau mwya' lliwgar posibl. Fe godwyd neuadd arbennig yn Y Fenni ar gyfer eu cynnal nhw, oherwydd roen nhw mor boblogaidd. Mi roen nhw'n eisteddfodau hysbysebol, achos mi roedd diwylliant, os mynnwch chi, y Cymry yn Y Fenni, yn dod i'r llwyfan arbennig yma. Mi roen nhw hyd yn oed yn rhoid sylw i'r diwydiant gwlân lleol. Pan fyddai Gwenynen Gwent yn mynd ar ei theithiau i Ewrop, roedd hi'n mynd â gwlanenni Y Fenni gyda hi, i hysbysebu eu gwerth nhw yn y tai crand a hyd yn oed llysoedd draw yng ngwledydd Ewrop. A doedd hi byth, wrth gwrs, yn colli cyfle i argyhoeddi pobol fod y diwylliant gwerinol yng Nghymru yn beth arbennig iawn.
Roedd hi'n cadw telynorion, roedd gyda hi bartïon o ddawnswyr i gael yn y plas yn Llanofer. Ac er fod yr iaith Saesneg wedi chwarae rhan amlwg yn yr eisteddfodau hynny hefyd - shwd allai hi beidio? Oherwydd mi roedd yr hen Wenynen yn troi, os mynnwch chi, ymhlith y crach, ac yn llwyddo i gael rheiny i roi'r gwobrau hael yma. Fe fyddech chi'n disgwyl bod yna gryn dipyn o le i'r iaith Saesneg. Ond ar y llaw arall, roedd gyda chi hen arwr godidog fel Thomas Price, Carnhuanawc, y gŵr a ymladdodd mor gadarn yn erbyn celwyddau y Llyfrau Gleision, er enghraifft. Mi roedd gyda chi ŵr fel yntau a oedd yn daer iawn ei ymlyniad at y diwylliant Cymraeg, a does yna ddim un amheuaeth o gwbwl fod y deg eisteddfod a gynhaliwyd dan nawdd Cymreigyddion Y Fenni yn un o'r penodau mwya' llachar yn stori'r Eisteddfod.
Arglwyddes Llanofer a'r Delyn Deires
Ac mi roedd y Wenynen yn anad dim wedi ffoli'n llwyr, wrth gwrs, ar y delyn deires, ar alawon gwerin ac ar ddawnsfeydd, dawnsfeydd gwerin Cymru, a 'does yna ddim un amheuaeth o gwbl bod Eisteddfodau'r Fenni rhwng 1835 a 1853 wedi chwarae rhan bwysig iawn o ran diogelu'r elfennau yna yn y diwylliant Cymraeg. Mae'n gwbwl sicr y byddai'r delyn deires wedi diflannu o'r tir yn llwyr oni bai am Wenynen Gwent, a oedd yn cyflogi telynor yng Nghaerdydd, Bassett Jones, i greu telynau. Hynny yw, roedd hi'n gosod cystadleuthau yn yr eisteddfodau ar gyfer chwareuwyr y delyn deires ac yn lle rhoid arian iddyn nhw'n wobrau, rhoi telyn newydd iddyn nhw. Ac mae'n debyg i'r Bassett Jones yma yng Nghaerdydd lunio rhywle o gwmpas rhyw dri dwsin o delynau newydd sbon, ac mi aeth rheini mâs i'r wlad. Ac mi barodd Gwenynen Gwent yn daer iawn, iawn, dros yr hyn yr oedd hi'n ei ystyried yn ddiwylliant traddodiadol y Cymry, lawr hyd at flwyddyn ei marw ym 1896, yn Gymraes danllyd - 'a very fiery Welshwoman', meddai un o'i chydnabod. Ond mewn gwirionedd o ran ei thras, Saesnes oedd hi. Diolch i Dduw am rai o'r natur yna.
Y Fenni, 1834: medal Eiddil Ifor
Yn yr Amgueddfa yn Sain Ffagan mae yna gasgliad da iawn o fedalau a thlysau a enillwyd yn eisteddfodau Cymreigyddion Y Fenni. Un o'r flwyddyn 1834, medal a enillwyd gan ŵr a oedd yn galw'i hunan yn Eiddil Ifor. Traethodwr oedd hwn, ac mi roedd e'n cystadlu'n reit gyson yn yr eisteddfodau, ac mi roedd Eisteddfodau'r Fenni, fel y byddech chi'n disgwyl, yn rhoi cryn le i destunau traethodau yn ymwneud â hanes Cymru, hanes lleol, megis hanes cylch Y Fenni, ac wrth gwrs hanes Cymru os mynnwch chi mewn ystyr letach. Ac mi roedd yr Eiddil Ifor yma'n cystadlu'n gyson iawn ac mae'n siŵr bod yna rhyw hanner dwsin da o'i fedalau ardderchog e yn fan hyn yn yr Amgueddfa.
Y Fenni 1837: medal am ganu'r delyn
Mae yna un arall, fel y byddech chi'n disgwyl, o'r flwyddyn 1837, a enillwyd gan William Morgan. Telynor oedd hwnnw. Fel byddech chi'n disgwyl ein bod ni'n dangos un o'r medalau hyn, achos mi roedd Gwenynen Gwent yn credu gant y cant mai'r delyn deires oedd offeryn cenedlaethol y Cymry. Roedd hi'n casáu'r delyn bedal, telyn os mynnwch chi'r neuaddau cerdd, ac mi roedd hi'n casáu piano hyd yn oed yn fwy byth. A dyna pam wrth gwrs yr aeth hi ati hi i geisio creu gymaint ag y gallai hi o delynau - telyn deires hynny yw - o delynau newydd. Ac mae'r medal yma a enillwyd gan William Morgan jest yn nodi'r ffaith hollbwysig honno. Oni bai am Wenynen Gwent ac yna, dechrau'r ugeinfed ganrif, ymddangosiad rhywun dywedwch fel yr enwog Nansi Richards, mi allen ni fod wedi colli'r delyn deires ac mi fyddai honno wedi bod yn golled chwith iawn, iawn.
Y Fenni, 1838: awdl goffa Gomer
Ac mae yna fedal arall o'r flwyddyn 1838, a dyma fe. Unwaith eto, dyma chi William Williams, Caledfryn, gwr a wnaeth ei farc ym Miwmares rhyw chwe mlynedd cyn hynny gyda'i awdl e ar longddrylliad y Rothesay Castle. Fan hyn ym 1838 mae e'n canu awdl farwnad i'r enwog Joseph Harris, Gomer, y gŵr a sefydlodd y papur, ac yn sgil hynny wrth gwrs y cylchgrawn enwog, Seren Gomer. Hynny yw, cylchgrawn gyda'r cynta' i ddechrau adrodd hanes yr eisteddfodau yng Nghymru. Ac fe ganodd Caledfryn er cof i Gomer ac i'w fab, yr enwog Ieuan Ddu, a fu farw'n drist o ifanc, ac roedd pobl yn rhagweld y byddai fe'n tyfu i fod yn seren yn ffurfafen diwylliant Cymru.
Hybu Diwydiannau Cymru
Mae eisteddfodau'r Fenni mor ddiddorol. Mae yna fedalau eraill i gael yn y casgliad sydd yn dangos sut yr oen nhw'n hybu y diwydiant gwlân, fel roen nhw hyd yn oed yn tynnu sylw at y de diwydiannol, lle'r oedd y gweithfeydd haearn a'r pyllau glo, wrth gwrs, yn tynnu mwy a mwy o bobl i'r parthau hynny. Rhowch chi'r cyfan yna at i gilydd, a'r apêl at y gwŷr mawr, ac at yr ysgolheigion Celtaidd yma a oedd yn fodlon dod draw i'r Fenni o'r Almaen, a mi welwch chi bennod mor gyffrous yw pennod Y Fenni yn hanes yr Eisteddfod.