1789 ac Eisteddfodau'r Gwyneddigion
Roedd 1789 yn flwyddyn allweddol yn hanes yr Eisteddfod - dechrau'r Eisteddfod fodern. Dyma'n syml ddigwyddodd. Roedd Thomas Jones yn seismon oedd yn cymryd diddordeb mawr mewn eisteddfodau tafarn bach, a gofynnodd i'r Gwyneddigion, cymdeithas o Gymry alltud yn Llundain i noddi’r Eisteddfod yng Nghymru. Mae’n debyg bod ar Gymru angen sefydliad cenedlaethol i adfer rhywfaint o urddas a safon diwylliannol. Ac fe gytunodd y Gwyneddigion... ond ar amod, wrth gwrs! Os oedden nhw am noddi'r Eisteddfod, roedden nhw am gael sicrwydd y byddai rheolau cadarn yn cael eu dilyn – er enghraifft, nhw fyddai'n dewis y beirniaid a’r prif destunau barddol, a byddai disgwyl i'r beirdd ddefnyddio ffugenwau. Mewn ffordd, dyma nhw'n dechrau cynllunio'r Eisteddfod gystadleuol, fodern sy'n gyfarwydd i ni heddiw.
Wel, fe ddywedodd Thomas Jones o Gorwen (braidd yn annonest) y byddai'r Gwyneddigion yn noddi Eisteddfod yng Nghorwen ym Mai 1789. Doedden nhw ddim o gwbwl! Ond ym Medi'r un flwyddyn, fe noddodd y Gwyneddigion Eisteddfod yn y Bala. Ac yn yr Eisteddfod honno, testun y Gadair oedd Ystyriaeth ar Oes Dyn.
Corwen, 1789
Nawr, ym mis Mai yng Nghorwen, doedd yna ddim testun wedi ei osod. Oen nhw fod cystadlu yn ôl yr hen drefn, yn fyrfyfyr. A'r bardd a enillodd ym mis Mai oedd yr enwog - yn ei ddydd - Gwallter Mechain, Y Parchedig Walter Davies.
Mi roedd e wedi cael ychydig bach o fantais, achos mi roedd Tomos Jones o Gorwen wedi rhoi gwybod i Gwallter Mechain o flaen llaw beth fyddai'r testunau byrfyfyr yr oedd disgwyl i'r beirdd gystadlu arnyn nhw. Ac felly fe enillodd y wobr, y gorget yma - y fronfollt, mae'n debyg, fyddai'r gair Cymraeg - a enillodd e am ganu yn fyrfyfyr. Doedd y beirdd eraill ddim yn hapus o gwbwl.
Bala, 1789
Mi greodd buddugoliaeth Gwallter Mechain ym mis Mai 1789 yng Nghorwen gryn dipyn o anniddigrwydd ymhlith y beirdd eraill, ond ym mis Medi mi aeth pethau o ddrwg i waeth. Oherwydd yn Y Bala ym mis Medi, dyma'r Gwyneddigion yn noddi yn swyddogol, yn go iawn felly am y tro cynta yr Eisteddfod ac fe osodon nhw destun ymlaen llaw - cystadleuaeth y gadair, awdl am gerdd ar Ystyriaeth ar Oes Dyn.
Ac unwaith eto mi gafodd Gwallter Mechain fantais, gan neb llai nag Owain Myfyr, pennaeth y Gwyneddigion, a roth wybod iddo fe pa fath o awdl yr oedd y Gwyneddigion yn disgwyl amdani hi, ac wrth gwrs, pan gyhoeddwyd ei ffugenw fe yn Y Bala - chredech chi ddim, ond ei ffugenw fe oedd Anonymous.
A dyma Gwallter Mechain yn codi i gael ei gadeirio a dyma'r beirdd eraill yn cerdded allan mewn protest, yn eu plith nhw yr enwog Tomos Edwards, Twm o'r Nant, ac mi aeth Gwallter Mechain i'w gadair fan honno yng nghanol storm. Wel, y gynta' o sawl storm sy' wedi dilyn yn hanes yr Eisteddfod ers y flwyddyn 1789.
Gwobr Gysur Twm o'r Nant
Mi roedd gan Twm o'r Nant, a oedd yn ffefryn mawr, roedd ganddo fe un cefnogwr rhyfeddol, Dafydd Ddu Feddyg, Dafydd Samwel. Mi roedd hwnnw gyda Capten Cook ar y fordaith enwog honno pan lladdwyd Capten Cook. Ac mi roedd Dafydd Samwel yn ddyn peryglus, tanllyd iawn, a mi roedd e'n dueddol i herio beirniaid i duel os oedd e'n meddwl bod rhywun fel Twm o'r Nant yn cael cam.
Wel, er mwyn mae'n debyg, codi calon yr hen Domos ar ôl siomedigaeth Y Bala yn 1789, mi roth Dafydd Samwel, Dafydd Ddu Feddyg, mi roth yn anrheg i Twm o'r Nant, ysgrifbin arian, ŷch chi'n edrych arno fe'r foment hon. Ac at hynny, mi wnaeth rywbeth arall, ac am wn i mi wnaeth hynny mwy o gam i Twm na'r cam oedd e (we)di cael yn yr Eisteddfod. Mi alwodd Twm o'r Nant y bardd a'r anterliwtiwr yn 'Cambrian Shakespeare', ac am flynyddoedd fe fu'r hen Dwm o'r Nant druan yn gorfod cario baich y disgrifiad hwnnw ohono fe. Ond dyna chi'r flwyddyn 1789. Mae'n dechrau, os mynnwch chi, yn gyffrous ac yn stormus, ac yn hynny o beth yn nodweddiadol iawn o hanes yr Eisteddfod ar hyd y degawdau a oedd i ddilyn.