Geiriau Diflanedig

Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, Tyddewi

2 Gorffennaf 2023 – Gwanwyn 2024

Bydd y llyfr poblogaidd Geiriau Diflanedig yn dod yn fyw mewn arddangosfa yn Oriel y Parc sy’n archwilio’r berthynas rhwng iaith a’r byd, a phŵer natur i ddeffro’r dychymyg.

Bydd yr arddangosfa deithiol, sy’n cael ei threfnu gan Compton Verney, gyda Hamish Hamilton a Penguin Books, yn casglu ynghyd, am y tro cyntaf erioed, waith celf gwreiddiol Jackie Morris ochr yn ochr â cherddi Cymraeg wedi’u hysgrifennu gan Mererid Hopwood a cherddi Saesneg gan Robert Macfarlane. Bydd yr arddangosfa yn ddwyieithog am y tro cyntaf erioed.

Mae’r llyfr poblogaidd The Lost Words yn defnyddio swynganeuon cyffrous a darluniau trawiadol i ail-gyflwyno wynebau diflanedig natur i’n geirfa ac, yn ei dro, ein hysbrydoli i ymuno â’r frwydr i’w gwarchod. Cafodd y fersiwn Cymraeg, Geiriau Diflanedig, ei gyhoeddi gan Graffeg yn 2019.

Mewn cydweithrediad rhwng Amgueddfa Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bydd y llyfr poblogaidd yn dod yn fyw yn Oriel y Parc a hefyd yn yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd, Gwynedd o 25 Mehefin 2023 hyd at wanwyn 2024.

Yn Oriel y Parc yn Nhyddewi, bydd gwrthrychau o gasgliadau hanes natur Amgueddfa Cymru hefyd yn cael eu defnyddio i dynnu sylw at faint o fioamrywiaeth sydd wedi’i cholli, ac i esbonio’r gwaith sy’n cael ei wneud i geisio atal y dirywiad hwn

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig yn Oriel y Parc a’r Ysgwrn i annog rhagor o bobl i ddysgu mwy am Geiriau Diflanedig a defnyddio’r swynganeuon i ddwyn i gof eu hatgofion hudolus o fyd natur.

I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa hon, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/geiriau-diflanedig/.

I gael rhagor o wybodaeth am y llyfr Geiriau Diflanedig ewch i https://graffeg.com/products/geiriau-diflanedig.

Arddangosfa Geiriau Diflanedig, Oriel y Parc

©Jackie Morris, 2016 

Arddangosfa Geiriau Diflanedig, Oriel y Parc

©Jackie Morris, 2016 

Arddangosfa Geiriau Diflanedig, Oriel y Parc

©Jackie Morris, 2016