Canllawiau Mynediad i Grwpiau - Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Ar un adeg, roedd Big Pit yn bwll glo go iawn, felly mae sicrhau hygyrchedd ar draws y safle yn anodd. Ond, byddwn yn gwneud ein gorau i wneud yn siŵr y byddwch chi'n mwynhau eich ymweliad.

Mae straeon gweledol yn ganllawiau gweledol ar gyfer grwpiau addysgol sy'n paratoi i ymweld. Maent yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer pob dysgwr gan gynnwys y rhai ag anghenion ychwanegol. Stori weledol: Taith i Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Ymwelwyr gydag anghenion symudedd a defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio

  • Rhaid i ymwelwyr gydag anghenion symudedd a defnyddwyr cadeiriau olwyn galw 02920 573 650 neu e-bostio bigpitemail@amgueddfacymru.ac.uk cyn ymweld.

  • Mae mannau parcio ar gael ar gyfer pobl â phroblemau symudedd ar bob un o'r tair lefel, ond er mwyn gweld yr orielau mwyngloddio, mae angen mynd i fyny ac i lawr llethr serth.

  • Er bod rampau rhwng y gwahanol lefelau ar wyneb y safle, mae angen cynorthwy-ydd yr un ar gyfer pob un sydd mewn cadair olwyn. Dylid nodi bod rhai o'r rampau yn hir, yn serth ac yn waith caled.

  • Am fod diogelwch ein hymwelwyr yn bwysicach na dim i ni, ni chaniateir mwy na 4 cadair olwyn dan ddaear ar unrhyw adeg. Mae hyn rhag ofn bod angen mynd ag ymwelwyr allan ar hyd lwybr gwahanol os nad yw'r siafft yn gweithio e.e. os oes problem gyda'r pŵer. Nid yw'r dihangfeydd brys yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn felly byddai angen cario pobl allan.

  • Os oes mwy na phedwar o bobl mewn cadair olwyn mewn grŵp, bydd angen ei rannu'n ddau neu fwy o grwpiau llai. Tra bydd un grŵp yn mynd dan ddaear, gall y lleill weld y pethau sydd ar wyneb y pwll. Fel hyn, ni ddylai gymryd mwy na'r 2½ awr arferol i barti â rhwng pedair ac wyth cadair olwyn ymweld â'r safle. Ond os oes 8-12 cadair olwyn yn y parti, mae'n debygol o gymryd tua 3½ awr.

  • Gan na ellir mynd ag offer trydanol heb eu cymeradwyo o dan ddaear mae'n rhaid i ni ofyn i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn trydanol i newid i gadair olwyn gyffredin os ydynt am fynd o dan ddaear — croeso i chi ddod ag un personol neu gallwn ddarparu cadair.

  • Gall rhai cadeiriau olwyn cyffredin, rhai ag olwynion bach neu heb ddolenni, fod yn anaddas i'w defnyddio o dan ddaear. Mae croeso eto i ymwelwyr ddefnyddio cadeiriau'r Amgueddfa os y dymunant.

  • Rydym yn deall bod rhai ymwelwyr yn ei chael yn anodd i newid i gadair olwyn anghyfarwydd felly ni fyddwn yn gofyn i ymwelwyr wneud hynny oni bai ei fod yn hanfodol i'w diogelwch neu i ddiogelwch eraill.

  • Os nad yw ymwelwyr yn defnyddio cadeiriau olwyn yn rheolaidd, ond bod ganddynt broblemau symud, efallai y byddwn yn gofyn iddynt ddefnyddio cadair olwyn yn ystod y daith danddaear. Ni fyddwn yn gofyn hyn gan ymwelwyr oni bai bod anghenion diogelwch yn ei wneud yn gwbl angenrheidiol.

  • Mae mynediad i ddefnyddwyr cadair olwyn â gofalwr i'r rhan fwyaf o adeiladau ar yr wyneb. Mae mynediad i dŷ'r injan weindio drwy ddrws arall ar ochr yr adeilad.

  • Awgrymir bod defnyddwyr cadeiriau olwyn yn gadael Big Pit yr un ffordd ag y cyrhaeddon nhw'r Amgueddfa, h.y. drwy'r Dderbynfa. Caiff y drws hwn ei gau am 3.30pm. canwch y gloch am gymorth wedi'r amser hwn.

  • Ceir toiledau addas ar y bob lefel o'r safle. Mae'r cyfleusterau anabl yn yr Ystafell Aros a'r Baddondai Pen Pwll yn gyfleusterau neillryw. Mae cyfleusterau anabl gwryw a benyw ar wahân yn y toiledau ger y Weindar fodd bynnag. SYLWCH: mae'r daith dan ddaear yn para tuag awr ac nid oes toiledau o dan y ddaear.

  • Gall pobl mewn cadeiriau olwyn fynd i'r siop anrhegion ac i'r ddau le bwyd.

Ymwelwyr dall neu rhannol ddall

  • Un o bleserau mawr ymweld â safle diwydiannol fel Big Pit yw profi sŵn ac arogleuon yr eitemau a'r arddangosiadau. Mae modd i grwpiau ac unigolion sydd â nam ar y golwg a'u cynorthwywyr gael taith dywys o dan y ddaear yn y Big Pit. Ychydig o bethau sydd mewn cesys gwydr yma.

  • Arddangosfa ar wyneb y safle yw'r Orielau Mwyngloddio. Mae'r orielau'n esbonio gwahanol dechnegau mwyngloddio modern o dorri twnelau newydd i gynhyrchu ar y ffas lo. Gwneir hyn trwy gerdded trwy efelychiad rhithwir o bwll glo ar ffurf cyflwyniad clyweledol. Dylech wybod fod sŵn mawr, goleuadau sy'n fflachio a newid yn lefelau'r golau a'r lliwiau yn rhan sylweddol o'r cyflwyniad.

  • Bydd tywyswyr yn rhoi cyfle i ymwelwyr gyffwrdd â rhannau o'r pyllau glo danddaear i ategu'r profiad.

  • Gellir cysylltu â'r Swyddog Addysg i drefnu sesiynau cyffwrdd a theimlo.

Ymwelwyr byddar neu drwm eu clyw

  • Mae labeli ysgrifenedig ar gyfer pob eitem yn y rhan fwyaf o arddangosfeydd ac fel geir dehongliad gweledol clir o brif thema'r arddangosfa. Darperir dolenni sain ar gyfer cymhorthion clyw mewn sawl man o amglych y safle.

Cymhorthion Meddygol sydd â Batri

  • Fel arfer, rhaid gadael pob teclyn â batri ynddo megis oriorau, camerâu ayb. ar yr wyneb fel 'contraband'. Nid yw hyn yn wir am rai cymhorthion meddygol sydd â batri megis Cymorth Clyw a Monitor Siwgr y Gwaed. Gofynnwn i chi hysbysu'r Dirprwy os oes gennych unrhyw offer o'r fath.

Anghenion dysgu ychwanegol

  • Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd. Nodyn: Teithiau danddaearol olaf: 3.30pm. Mynediad olaf: 4.00pm.      

Cŵn

  • Gallwch ddod â chŵn ar y safle ar yr amod eu bod yn cael eu cadw ar dennyn.

  • Croeso i bobl sydd â nam ar eu golwg neu eu clyw ddod â'u cŵn tywys gyda nhw ond gwaetha'r modd, ni ellir mynd â nhw dan ddaear.

  • Cynigir dŵr i gŵn wrth y fynedfa a gallwch ofyn am ddŵr ar gyfer eich ci yn y ffreutur a'r siop goffi.

  • Cynigir rhawiau baw i berchnogion cŵn wrth fynd i mewn i'r amgueddfa ac rydym ni'n gwerthfawrogi eich cydweithrediad i gadw'r amgueddfa yn lân ac yn ddiogel.

Cyfleusterau

  • Mae toiledau â chyfarpar addas ar bob un o'r tair lefel o'r safle. Mae'r cyfleusterau hygyrch yn yr Ystafell Aros a'r Baddonau Pen Pwll yn neillryw. Fodd bynnag, mae'r cyfleusterau anabl yn y toiledau ger y Ty Injan Weindio yn rhai un rhyw. SYLWCH fod y daith danddaearol yn para tua awr ac nid oes toiledau o dan y ddaear.

  • Mae'r siop anrhegion a'r ddwy ganolfan arlwyo yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

  • Darperir cyfleusterau newid cewynnau yn y toiledau yn y Baddondai Pen Pwll.